fbpx

Mae Hinsawdd Cymru yn gweithio i sicrhau bod lleisiau pobl yng Nghymru yn cael eu clywed gan arweinwyr, yn COP26 a thu hwnt.

Os ydych chi’n grŵp o bobl sydd eisiau ymuno â’r ymgyrch gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i ychwanegu’ch lleisiau i gyd ar unwaith. Os yw’n well gennych gofrestru’n unigol, cliciwch yma i fynd at y ffurflen gofrestru unigol. Os ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol gallwch hefyd gofrestru fel partner Hinsawdd Cymru i ddangos eich cefnogaeth.

Mae’n cymryd mond ychydig o eiliadau i ychwanegu’ch lleisiau ac anfon negeseuon gan eich grŵp at ein harweinwyr. Gallwch ychwanegu un neges y cytunwyd arni gan y grŵp cyfan, neu restr o negeseuon.

Anfonwch neges at ein harweinwyr

Mae ein hinsawdd a’n byd naturiol mewn argyfwng, ac mae hyn yn bygwth ein cymunedau, ein ffyrdd o fyw, a’n lleoedd Cymreig hardd.

Mae 2021 yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell. Ym mis Tachwedd, bydd arweinwyr y byd yn ymgynnull ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, gyda dyfodol ein cymunedau yn eu dwylo. Mae angen i ni ddangos iddyn nhw pa mor bwysig yw hyn i ni.

Ychwanegwch eich llais i ddweud wrth ein harweinwyr ein bod ni eisiau gweld gweithredu cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau rydym yn eu caru.

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.