Wythnos Werdd Pontypridd
Ym mis Chwefror 2020, dinistriwyd Pontypridd gan Storm Dennis a welodd gannoedd o gartrefi a busnesau dan ddŵr, ffyrdd wedi’u difetha, pontydd wedi’u torri a bywydau wedi’u troi ben i waered. Mae profi newid yn yr hinsawdd yn uniongyrchol, yn eich tref eich hun, yn brofiad na fyddwn ni byth yn ei anghofio. Ond mae pobl Pontypridd yn gryf, mae ein cymuned yn glos ac allan o’r dinistr gwelsom fyddin o ffrindiau, a chymdogion nad oeddem erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen, yn ysgubo dŵr halogedig o gartrefi, yn gweithio gyda’i gilydd i lenwi sgipiau â’r llanastr, ac yn cynnig prydau poeth, arian, a sawl cofleidiad i ddangos cydymdeimlad a’n cysuro. Gyda’n gilydd, dysgodd ein cymuned sut beth yw argyfwng hinsawdd pan fydd yn cyrraedd carreg eich drws.
Dros 18 mis yn ddiweddarach, gwelodd Angela Karadog, Cydlynydd Prosiect Prosiect Ieuenctid Economi Gylchol Ewropeaidd Pontydysgu, yr Wythnos Werdd Fawr yn gyfle i ddod ag ychydig o bobl ynghyd. Dywedodd Angela “I ddechrau, cofrestrais Wythnos Werdd Pontypridd gan ddisgwyl cynnal un digwyddiad efallai ar gyfer y prosiect ynghyd ag ambell neges ar y cyfryngau cymdeithasol drwy’r wythnos. Ond roedd gan bobl Pontypridd syniadau eraill! Fe wnaethom ni weithio mewn partneriaeth â Climate.Cymru a Chyfeillion y Ddaear Pontypridd ac rydym ni wedi trefnu wythnos lawn o weithgareddau, gweithdai, digwyddiadau celfyddydol, cyflwyniadau a dathliadau. Rydym ni hyd yn oed yn ysgrifennu Bil Hawliau ar gyfer yr afon! ”
Mae’r wythnos yn dechrau gyda digwyddiad casglu sbwriel mewn gwisg ffansi yng nghanol y dref a gweithgareddau yng Nghlwb y Bont (lleoliad poblogaidd iawn a gafodd ei daro’n wael gan lifogydd 2020) gan gynnwys celf wedi’i uwchgylchu, ffasiwn wedi’i ailgylchu a dangosiad ffilm. Ar ddiwedd yr wythnos bydd Caffi Atgyweirio, gweithdy permaddiwylliant a chyfle i gyfnewid planhigion. Mae gwleidyddion lleol yn cymryd rhan drwy gynnal ymweliad â’r Senedd a chasglu barn ar sut i gynnal momentwm.
Daw’r wythnos i ben gyda seremoni sy’n dod â’r gymuned ynghyd i gyflwyno Bil Hawliau, wedi’i lunio gan bobl leol, ar gyfer Afon Taf, sy’n llifo drwy ganol y dref. Mae’r artist lleol Lupine Wright yn drafftio’r hawliau ar sgrôl wedi’i gwneud â llaw o blanhigion lleol a fydd yn cael ei chyflwyno yn ystod y dathliad. Bydd y seremoni yn cychwyn drwy fynd ati i gasglu sbwriel ar lan yr afon a bydd yn cynnwys barddoniaeth gan Rufus Mufasa, caneuon gan Gôr Cymunedol Pontypridd, gorymdaith a bendithion.
Eglura Hayley Richards o Gyfeillion y Ddaear Pontypridd “Nid yw ein cymuned wedi cael cyfle i ddod ynghyd i fyfyrio ar lifogydd dinistriol 2020 na meddwl am ein dyfodol. Gobeithio y bydd y seremoni hon yn ffordd gadarnhaol o ddechrau’r broses hon. Mae’n gyfle i wneud heddwch ag Afon Taf, ailgysylltu â’r afon a deall yn well y rôl bwysig y mae’r Taf yn ei chwarae yn ein bywydau ac wrth gefnogi byd natur.”
Manylion Cyswllt y Trefnydd;
Angela Karadog
@angerrard
angela.gerrard@gmail.com
pontygreenweek@gmail.com
http://ceyou.eu
01443 405386/07736322610
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.