Wythnos Werdd Fawr 2023
10 - 18 Mehefin 2023
Dathliad mwyaf y DU o weithredu cymunedol i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn byd natur.
Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan.
Adnoddau Wythnos Werdd Fawr – yn dod yn fuan
- Cynlluniwch eich digwyddiad
- Hyrwyddwch eich digwyddiad ar wefan yr Wythnos Werdd Fawr
- Adnoddau ysgolion cynradd (Cymraeg yn dod yn fuan)
- Pecyn gweithgaredd ysgol uwchradd (Cymraeg yn dod yn fuan)
- Pecyn cyfathrebu ar gyfer trefnwyr digwyddiadau (gyda graffeg ddwyieithog)
- Gwahoddwch eich AS
- Ysgrifennwch at eich MS (Cymraeg yn dod yn fuan)
Beth yw’r Wythnos Werdd Fawr?
Yr Wythnos Werdd Fawr yw galwad fwyaf y DU i weithredu dros newid hinsawdd, a bydd yn cael ei chynnal eleni rhwng y 10fed a’r 18fed o Fehefin 2023.
Gyda’n gilydd, byddwn yn dangos i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau bod pobl o bob cefndir yn camu i’r adwy i weithredu dros newid hinsawdd – ac mae angen iddynt gamu i’r adwy hefyd.
Y llynedd, cymerodd dros chwarter miliwn o bobl ran yn yr Wythnos Werdd Fawr, trwy sefyll i fyny dros y blaned yn eu cymuned ac ar-lein. Eleni, rydym am ei wneud hyd yn oed yn fwy, yn well, ac yn wyrddach!
Bydd miloedd o ddigwyddiadau lleol, gwyliau, gweithdai, trafodaethau, clybiau swper a dathliadau. Bydd pobl ledled y wlad yn dangos cymaint y maent yn poeni am yr hinsawdd a natur ac yn annog eraill i gymryd rhan a gweithredu, o blant ysgol i ASau lleol.
Roedd yr Wythnos Werdd Fawr 2022 yn llwyddiant ysgubol!
Cymerodd dros 268,000 o bobl ran!
Llwyddodd GBGW i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl:
- Nid oedd 43% o’r cyfranogwyr wedi mynychu digwyddiad hinsawdd o’r blaen.
- Dywedodd 24% o’r cyfranogwyr nad oeddent, “y math o berson sydd fel arfer yn gweithredu dros yr hinsawdd”.
- Dysgodd 84% bethau newydd y gallant eu gwneud i amddiffyn byd natur a gweithredu dros newid hinsawdd.
- Cyrhaeddwyd mwy na 40 miliwn o bobl ar gyfryngau cymdeithasol.
Cymerwch Ran!
Ymunwch â’r don o weithredu sy’n ysgubo ar draws y wlad fis Mehefin eleni. Cynlluniwch ddigwyddiad yn eich cymuned fel rhan o’r #WythnosWerddFawr i ddangos i’n arweinwyr bod eich cymdogaeth yno dros weld dyfodol glanach, gwyrddach. P’un a ydych yn cynnal sesiwn codi sbwriel neu fore coffi hinsawdd, byddwch yn helpu i ddangos bod pobl ym mhobman am weld camau brys i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd, natur a chostau byw.
Cymerwch Ran!Darganfyddwch adnoddau defnyddiol a mwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Take Part in Great Big Green Week 2023We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.