Mae’r Glymblaid Hinsawdd, ein partner clymblaid ledled y DU, yn cynllunio’r Wythnos Fawr Werdd – galwad cenedlaethol am weithredu ar newid hinsawdd. Bydd miloedd o ddigwyddiadau cymunedol ledled y DU yn cael eu cynnal rhwng y 24ain o Fedi, a’r 2il o Hydref, a fydd yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o’r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn creu ton o gefnogaeth dros weithredoedd er mwyn amddiffyn y blaned. Mae Climate Cymru yn cefnogi hyn gyda channoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru.
O lanhau traeth i ddangosiadau ffilm i ffeiriau cymunedol, mae’n sicr y bydd rhywbeth i gymryd rhan ynddi yn eich ardal leol. Cliciwch yma i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi neu i gofrestru’ch digwyddiad eich hun.
Os ydych chi’n cynnal digwyddiad, ystyriwch annog eich mynychwyr i ymuno â Climate Cymru trwy ein gwefan.
Dyma ffurflen i gofrestru pobl i Climate Cymru yn eich digwyddiad.