Wythnos Fawr Werdd 2021
Mae’r Glymblaid Hinsawdd, ein clymblaid partner ledled y DU, yn cynllunio’r Wythnos Fawr Werdd – galwad cenedlaethol am weithredu ar newid hinsawdd. Bydd miloedd o ddigwyddiadau cymunedol ledled y DU yn cael eu cynnal rhwng 18eg a 26ain o Fedi a fydd gyda’i gilydd yn codi ymwybyddiaeth o’r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn helpu i adeiladu momentwm ar gyfer COP26 yn ddiweddarach eleni. Mae Climate Cymru yn cefnogi hyn gyda channoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru.
O lanhau traeth i ddangosiadau ffilm i ffeiriau cymunedol, mae’n sicr y bydd rhywbeth i gymryd rhan ynddi yn eich ardal leol. Cliciwch yma i ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi neu i gofrestru’ch digwyddiad eich hun.
Os ydych chi’n cynnal digwyddiad, ystyriwch annog eich mynychwyr i ymuno â Climate Cymru trwy ein gwefan.
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/07/20210701_104039-1-min-1280x960.jpg)
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/03/MVW-C18-1718-0273-scaled-1280x854.jpg)
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/03/Gwledd-Conwy-Feast.jpeg)
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/03/Gwledd-Conwy-Feast-2.jpeg)
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/07/GWT-Home-ed-group-min-1280x960.jpg)
![](https://climate.cymru/wp-content/uploads/2021/03/VWD-Cardiff-Bay-001-scaled-1280x960.jpg)
Taith Hinsawdd Cymru o amgylch Cymru
Yn ystod yr Wythnos Fawr Fawr Werdd 2021 rydym ni’n mynd ar daith i arddangos y digwyddiadau gorau ledled yr wlad. Bydd staff a gwirfoddolwyr Hinsawdd Cymru yn mynd â dau gerbyd trydan ar daith fawreddog o amgylch Cymru!
Byddym yn stopio mewn cymaint o ddigwyddiadau cymunedol, prosiectau partneriaid a lleoliadau eiconig â sy’n phosib er mwyn adrodd straeon hinsawdd sy’n haeddu eu hadrodd yn ein gwlad anhygoel.
Rydym ni am arddangos cymunedau sy’n dod at ei gilydd i wneud newidiadau yn eu hardal leol, busnesau a phrosiectau arloesol sy’n gwneud gwaith hinsawdd da yng Nghymru, ac unigolion sy’n ysbrydoli ac yn arwain y ffordd.
Os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost atom ar helo@climate.cymru, a pheidiwch ag anghofio ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol i glywed popeth am ein taith a’r bobl a’r prosiectau anhygoel rydym ni am gyfarfod.
Mwy o wybodaeth
More informationWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.