Troi’n Wyrdd yng Ngardd Bodnant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Fel gardd restredig Gradd I gydag 80 erw o welyau ffurfiol, borderi, coetir a dôl, mae Gardd Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghonwy eisoes yn eithaf gwyrdd. Ond trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy rydym yn gwneud ein rhan i wneud y ffordd rydym yn gweithredu’n fwy effeithlon a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Ein prosiect gwyrdd mwyaf hyd yma yng Ngardd Bodnant yw pweru ein hystafell de gydag ynni’r haul trwy osodiad, sydd wedi ennill gwobr genedlaethol, yn y maes parcio. Mae’r 175 panel ffotofoltäig (a elwir hefyd yn baneli solar) sydd wedi’u gosod ar ochr y bryn yn cynhyrchu digon o drydan i bweru caffi ein Pafiliwn, dau bwynt gwefru ar gyfer cerbydau trydan, ynghyd ag offer pŵer sy’n gweithio ar fatri’r garddwyr.
Mae’r paneli ffotofoltäig hefyd yn cynhyrchu pŵer ar gyfer pwmp gwres ffynhonnell aer ym mloc toiled y maes parcio, gan ddarparu dŵr poeth ar gyfer golchi dwylo yn ogystal â gwresogi. Mae’r pwmp gwres yn hynod effeithlon ac yn gweithio’n effeithiol trwy gydol y flwyddyn.
Yn yr ardd rydym wedi newid llawer o’n hoffer i offer pŵer sy’n gweithio ar fatri – maent yn ysgafnach ac yn lanach i’n garddwyr eu defnyddio ac yn dawelach i ymwelwyr, yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd. Rydym hyd yn oed wedi buddsoddi mewn peiriant torri gwair robot sy’n gweithio ar fatri sydd wedi’i raglennu i dorri lawnt donnog Gardd y Gogledd yn awtomatig, gan ryddhau’r garddwyr i wneud tasgau anoddach.
Wrth gwrs, rydym hefyd yn ailgylchu ein holl ddail, naddion pren a thoriadau planhigion i wneud ein compost ein hunain, sy’n gorchuddio’r gwelyau yn y gwanwyn.
Mae pob ceiniog sy’n cael ei harbed trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn mynd yn ôl i gadwraeth ac mae ein gwaith yng Ngardd Bodnant yn cefnogi uchelgais Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030.
Rydym yn falch o fod yn hyrwyddo datrysiadau ynni mwy gwyrdd yn ein lleoedd yng Nghymru, gyda dros 80% o’n hanghenion ynni bellach yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, gan gynnwys biomas, pympiau gwres, hydro a ffotofoltäig. Mae dros 100 o systemau adnewyddadwy wedi’u gosod ar ein safleoedd i leihau’r effaith a gawn ar yr amgylchedd, ynghyd â 36 pwynt gwefru cerbydau trydan.
Ni yw elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, felly mae’n ddyletswydd arnom i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â newid hinsawdd, sy’n cyflwyno’r bygythiad mwyaf i’r lleoedd, natur a chasgliadau rydym yn gofalu amdanynt.
Rydym yn falch o fod yn defnyddio pŵer natur ac yn gwneud gwahaniaeth yn ein lleoedd arbennig ledled Cymru.
I ddysgu mwy am brosiectau ynni adnewyddadwy’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru ewch i:
https://www.nationaltrust.org.uk/cy_gb/lists/gogoniant-troin-wyrdd-yng-nghymru
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.