Sustrans Cymru yn galw am rwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy a chynhwysol i Gymru
O amgylch y byd, y rhai sy’n cyfrannu leiaf at newid yn yr hinsawdd sy’n dioddef fwyaf o’r hafoc y mae’n ei greu. Yn benodol, mae menywod yn cario mwy o faich am resymau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ond eto i gyd rydym yn cael ein tangynrychioli wrth wneud penderfyniadau.
Eleni, fel rhan o’r “Great Big Green Week”, bydd Sustrans Cymru yn cynnal digwyddiad i arweinwyr benywaidd ym maes trafnidiaeth a chynhwysiant. Rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni yng Nghymru leihau allyriadau o drafnidiaeth er mwyn cwrdd â’r argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o shifft foddol o 45% sy’n golygu bod yn rhaid i ni annog pobl i deithio’n wahanol am gymaint o deithiau â phosib, yn enwedig, lle mae’r pellter yn fyr (h.y. llai na 5 milltir).
Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni ei gwneud hi’n haws i bobl gerdded a beicio trwy ddarparu cyfleusterau sy’n ei gwneud hi’n ddiogel ac yn hawdd gwneud hynny. Mae angen i ni hefyd wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynhwysol i’w wneud yn ddewis arall deniadol i’r car preifat.
Bydd ein digwyddiad ym Mharc Bute, yn dwyn ynghyd y menywod sy’n gweithio i gynyddu mynediad at drafnidiaeth naill ai trwy ddatblygu polisi neu wasanaethau neu drwy gynyddu mynediad ac ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Nod y digwyddiad yw tynnu sylw at effaith newid yn yr hinsawdd ar fenywod a chodi ymwybyddiaeth o’r angen am fwy o fenywod mewn rolau gwneud penderfyniadau. Rydym yn ffodus yng Nghymru bod gennym rai arweinwyr benywaidd amlwg a thalentog ond gyda dim ond 20% o’r diwydiant trafnidiaeth yn fenywod, mae’n amlwg bod gennym ffordd bell i fynd eto cyn i ni sicrhau cydraddoldeb yn y sector.
O ystyried yr her sy’n ein hwynebu wrth wneud trafnidiaeth yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod yn cynyddu cynrychiolaeth yr holl ddefnyddwyr. Gan gymryd teithio egnïol yn benodol, gwyddom fod yn rhaid i ni gynyddu nifer ac amrywiaeth y rhai sy’n teithio bob dydd ar droed neu ar feic. Er mwyn cyflawni hynny, dylai gwasanaethau gael eu datblygu gan y rhai sydd â nodweddion tebyg i’r grwpiau yn y boblogaeth yr ydym yn ceisio eu cyrraedd.
Trwy gydweithrediad â Pedal Power, Nextbike UK a Cycling UK, bydd ein digwyddiad yn rhoi cyfle i arweinwyr benywaidd roi cynnig ar ystod o wahanol feiciau gan gynnwys trydan ac wedi’u haddasu. Bydd yn caniatáu inni fagu hyder ynghylch teithio egnïol; adeiladu rhwydwaith ar gyfer y rhai sy’n arwain newid; ac ysbrydoli eraill i feddwl yn wahanol am sut maen nhw’n teithio a, gobeithio, sut maen nhw’n meddwl am yrfaoedd yn y diwydiant trafnidiaeth.
Mae gennym lawer o waith i’w wneud os ydym am gyflawni newid yn y ffordd y mae pobl yn teithio yng Nghymru. Bydd dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu cyfraniad menywod yn y diwydiant a’r cynnydd a wnaethom eisoes yn ein helpu i greu symudiad ar gyfer newid a all gyflymu ymdrechion i arallgyfeirio’r sector trafnidiaeth a sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy a chynhwysol i Gymru.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.