fbpx Ein targed 15145 o 10,000 Ychwanegwch eich llais

Siop Hinsawdd – ‘Siop Adrannol Gwyrddaf y Byd’ yn agor ddydd Sadwrn yn Aberystwyth!

18 Medi, 2021
Gan Ru Hartwell

Mae’r fenter radical hon, sy’n agor ar y 18fed o Fedi, yn ein helpu i ddeall bod y byd naturiol a’r hinsawdd yn dioddef pob tro y byddwn yn prynu pethau newydd. Mae offer cartref a roddir yn cael ei atgyweirio a’i werthu am brisiau fforddiadwy. Caiff yr elw ei fuddsoddi mewn plannu coed yn Kenya. Tu hwnt i’r budd o ran atafaelu carbon, bydd hyn yn lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi, yn cynnig offer rhad a hygyrch i gymunedau incwm isel, tra bod y coed yn hybu bioamrywiaeth ac yn darparu ystod o fuddion i ffermwyr lleol.

Siop Hinsawdd – ‘Siop Adrannol Gwyrddaf y Byd’ yn agor ddydd Sadwrn yn Aberystwyth!

Lluniodd y coedwigwr profiadol, Ru Hartwell, y syniad yn ystod y cyfnod clo ac meddai;

 “Mae’n brosiect eithaf syml mewn gwirionedd – ‘trawsnewid sothach i mewn i garbon.  Mae pobl yn rhoi eu hoffer diangen inni ac rydym ni’n ei werthu i ariannu plannu coed yn Kenya. Wrth iddyn nhw dyfu, mae’r coed yn atafaelu carbon ac felly’n helpu i oeri’r blaned. ”

Gydag arwynebedd llawr o 6,500 tr sgwâr, 2 lawr a 10 adran, mae’r Siop Hinsawdd yn llawn dop o nwyddau cartref sydd wedi cael ei rhoi gan bobl yng Nghymru sy’n poeni am yr amgylchedd. Mae’n dilyn llwyddiant siop lai yn Llanbedr Pont Steffan sydd wedi codi digon o arian i blannu 125,000 o goed ers Ebrill 2021.

“Mae’r gymuned yma wedi cymryd at y syniad ac maen nhw wedi bod yn gefnogol dros ben” meddai Ru. “Mae pawb yn ennill mewn gwirionedd. Mae llai o bethau’n mynd i safleoedd tirlenwi, mae llai o adnoddau’n cael eu defnyddio i wneud cynnyrch newydd, mae pobl llai breintiedig lleol yn cael offer rhad, tra bod ffermwyr Affrica yn derbyn help llaw ac mae’r blaned yn cael ychydig mwy o goed trofannol sy’n oeri’r tymheredd ”

Mewn tro anarferol ar y model siop safonol ar gyfer siop elusen, caiff nwyddau’r ddwy siop eu prisio nid mewn ceiniogau a  phunnoedd ond yn hytrach mewn arian cyfred unigryw’r Siop Hinsawdd o “Goed a blannwyd.”

Fel yr eglura Ru:

“Fel rheol, pryd bynnag rydyn ni’n prynu rhywbeth newydd, mae’r byd naturiol yn cael ei niweidio— oherwydd mae’n rhaid cynhyrchu, prosesu a danfon popeth. Ond mae hon yn siop positif-o blaid-natur. Yma, bydd pob nwydd a brynnir yn plannu coed sy’n cynnal bioamrywiaeth ac yn amsugno Carbon. Mae’n costio 20c i ni blannu coeden, felly os yw padell ffrio yn costio 10 Coed a Blannwyd, ei werth fydd £2.00. “

Dywed Alun Williams, Maer Aberystwyth, a fydd yn lansio’r Siop, 

“Mewn economi sydd wedi newid yn sylweddol, arloesedd lleol fel hyn sydd ei angen arnom i lenwi’r bylchau yn y Stryd Fawr, a adawyd gan yr hen siopau cadwyn.”

Rheolir Siop Hinsawdd gan Treeflights Ltd, cwmni 100% nid-er-elw (Rhif Cwmni 6462199) ac fe’i hariennir yn rhannol o dan Gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Dolen:  www.climateshop.org 

Siop Hinsawdd ar FB www.carbonlink.org

Aberystwyth Climate Shop address: 36 Great Darkgate St,SY23 1DE

Coedwigwr Carbon.  Plannodd ei goeden gyntaf yng Nghymru yn 1976 pan brynodd ei rhieni fferm ym mynyddoedd Cambria uwchben Llanbedr.  Plannwyd 2.4 o goed yn Kenya hyd heddiw.  Gyda chefnogaeth 2 siop hinsawdd a’r elusen hinsawdd Genedlaethol Maint Cymru, bydd y prosiect yn Kenya nawr yn plannu 1 miliwn o goed yn flynyddol.”

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydyn ni’n recriwtio! Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Cydlynydd Cymunedol BAME Climate Cymru

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.