fbpx
View all schools

Ysgol Gynradd Ystumllwynarth

Wedi'i lleoli yng nghanol y Mwmbwls yng nghysgod castell hanesyddol Ystumllwynarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal sy’n dal i gynnal ‘awyrgylch pentref’. Hyd yn oed heddiw, mae llawer o gyfenwau’r disgyblion yr un fath â’r rhai sy’n ymddangos yng nghofrestrau 100 mlynedd yn ôl! Bydd ein hysgol yn ceisio darparu dehongliad dychmygus, eang a chytbwys o'r cwricwlwm o fewn amgylchedd ysbrydoledig, gofalgar a diogel yn yr ystafell ddosbarth a ledled yr ysgol.

Mae'r ysgol yn lle hapus sy'n rhoi pwyslais mawr ar feithrin galluoedd y plant, boed yn academaidd, cerddorol, artistig neu o ran chwaraeon. Rydym yn pwysleisio meithrin sgiliau fydd yn galluogi disgyblion i ddod yn ‘ddysgwyr gydol oes.

Climate Cymru Ymroddedig Signature name Signature role

“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd mor bwysig i fywydau ein disgyblion yn Ystumllwynarth. Nhw yw'r dyfodol a bydd yr effeithiau mor berthnasol iddyn nhw a'u teuluoedd. Ein nod ni yn Ystumllwynarth yw cefnogi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion moesegol sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau i’w galluogi i wneud penderfyniadau cyfrifol wrth iddynt dyfu a'n gadael ar gyfer cam nesaf eu taith.”

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.