Ysgol Dinas y Bran
Mae Ysgol Dinas Brân yn ysgol gymunedol leol sydd ag enw da a rhagoriaehtol yn genedlaethol. Arwyddair ein hysgol yw, “Llwyddiant trwy Ymdrech” a'n nodau yw “Bod yr Ysgol orau yng Nghymru” a “darparu addysg gradd cyntaf i'n plant mewn awyrgylch diogel, digynnwrf, pleserus ac ysgogol” i weithredu trwy'r gwaith caled, ymrwymiad ac arbenigedd ein staff ac ethos hapus, cadarnhaol ein hysgol.
“Mae ein hysgol yn gweithredu ar newid hinsawdd. Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau sylweddol i leihau ein hôl troed carbon, ac i annog eraill i wneud yr un peth. Rydym wedi lleihau faint o blastig untro rydym yn defnyddio yn yr ysgol ac yn gweithio i ennill statws di-blastig. Rydym eisoes wedi cael deiseb wedi’ drafod yn Nhy'r Senedd, ac yn fwy diweddar gwnaethom fuddsoddi mewn cynllun paneli solar 150w sy'n cynnwys 375 o baneli. Caniatáwyd hyn inni fod oddi ar y grid yn llwyr am 2 awr yn ystod wythnos gyntaf y tymor! Rydym hefyd wedi gwneud gwelliannau gwresogi sy’n golygu ein bod gennym bellach unai thermostatau gwrth-ymyrryd neu thermostatau ystafell ym mhob ystafell. Mae gan yr ysgol gyfan dapiau botwm gwthio sy'n ein galluogi i arbed dŵr. Rydym hyd yn oed yn prynu dodrefn ail law lle mae’n bosib - yn ystod y haf cafodd rhai o'n hystafelloedd, a oedd angen eu hatgyweirio a lle storio ychwanego eu gwella gyda chypyrddau a oedd wedi cael eu prynu gan Gyngor Sir arall. Os mae llawer o bobl yn gwneud yr un peth gall hyd yn oed pethau bach fel hyn wneud llawer o wahaniaeth!”
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.