fbpx

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Dychmygu Gweithredu ar gyfer Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru

6 Chwefror, 2025

A ydych chi’n angerddol am gyfiawnder hinsawdd, newid a arweinir gan y gymuned, a lledaenu lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sgwrs hinsawdd? Mae Climate Cymru yn chwilio am Gydlynydd Dychmygu Gweithredu trefnus, creadigol ac ysgogol i gefnogi Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru i lunio naratifau sy’n ysbrydoli gweithredu ac yn adlewyrchu profiadau bywyd amrywiol.

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi a llwyfannu lleisiau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru, gan rannu straeon pwerus sy’n ysbrydoli gweithredu ar yr hinsawdd. Byddwch hefyd yn ymgysylltu ag unigolion, artistiaid, sefydliadau a chymunedau i adeiladu partneriaethau a meithrin cydweithredu, yn ogystal â dylanwadu ar strategaeth a chreu effaith trwy allgymorth cymunedol, cynnwys cyfryngau cymdeithasol, ac adrodd straeon sy’n ysgogi newid.

Telerau cyflogaeth: Cytundeb cyfnod penodol 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos (7.4 awr)

Cyflog: £29,515 pro rata + phensiwn

Lleoliad: Gweithio o bell, gyda’r opsiwn i weithio o’r swyddfa/yn hybrid yng Nghaerdydd.

Mwy o fanylion: Disgrifiad swydd llawn yma, ffurflen gais yma, a ffurflen cyfle cyfartal yma.

Dyddiad cau: 9yb, 24 Chwefror 2025

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu prosiect Dychmygu Gweithredu.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Buddsoddwch Mewn Bywyd, Nid Dinistr: Pam Mae’n Rhaid i Bensiynau Cymru Ddadfuddsoddi Nawr

Penderfyniad bwysig ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru (WPP)

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.