fbpx

Rhennir cymunedau UNESCO Dyfi Biosphere gan ffyrdd peryglus.

19 Medi, 2021
Gan Freya Price

Mae gan ardal Biosffer Dyfi UNESCO gyfoeth o bobl a chymunedau sydd eisiau gwneud pethau gyda’i gilydd. Ond fel llawer o gymunedau gwledig, mae ein cymunedau wedi’u rannu gan ffyrdd peryglus a mynediad anghyfartal i drafnidiaeth.

Mae cefnffordd yr A487 rhwng Aberystwyth a Machynlleth, er enghraifft, yn gwthio ein cymuned i beidio â bod yn gorfforol iach, sy’n effeithio ar yr hinsawdd ac yn peryglu bywydau. Rydym eisiau mynediad gwell i fedru trafeilio yn iachach fel llwybrau beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus rhwng yr holl gymunedau o Aberystwyth i Machynlleth. Rydym yn gwybod y bydd cysylltu ein trefi a’n cymunedau trwy wneud hi’n hawsach i gerdded a beicio yn gwella lles, ansawdd aer ac iechyd, gan hefyd leihau llygredd sŵn ac allyriadau carbon.

Gallai llwybrau beicio a cherdded diogel, ynghyd a thrafnidiaeth gyhoeddus drydanol drawsnewid Cwm Dyfi, gan ddatgelu buddion economaidd, iechyd ac amgylcheddol enfawr ar yr un pryd. Gyda seilwaith gwell ar gyfer teithio yn gorfforol iach, byddem yn ysbrydoli llawer mwy o bobl i fynd ar y beic, cerdded neu ddefnyddio’r bws ar gyfer teithiau dyddiol. Bydd hyn yn creu dyfodol gwydn, tecach a chynaliadwy / lleihau allyriadau.

Yn ystod y pandemig yn 2020 cawsom heddwch, diffyg llygreth a teithiau beicio diogel i’r traeth pan nad oedd llawer o geir ar y ffyrdd. Mae gennym yr holl gynhwysion ar gyfer cymuned iach, fywiog, gynaliadwy, heblaw am ffyrdd diogel o gyrraedd ein gilydd.

“Gall y ffordd rydym ni’n dylunio ein trefi a’n pentrefi effeithio ar ein diwylliant, a’n perthnasoedd â’n gilydd. Mae gennym ni ddiwylliant ceir enfawr yma yng Nghymru. Mae diwylliant ceir yn erydu cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles gwell, empathi ac ymddiriedaeth, sydd, rwy’n credu, yn sylfaen y mae angen i ni symud gyda’n gilydd i’r dyfodol. Rydym yn gwynebu trawsnewidiad enfawr fel erioed o’r blaen gyda’r argyfwng hinsawdd – gadewch inni adfer pwyll yn ein cymunedau a dod ag optimistiaeth ar adeg pan mae’n rhaid i ni ddal gafael ac edrych tuag at bositifrwydd, undod a dycnwch. ” – Sarah, Taliesin

Rydym eisiau gallu croesi’r ffordd heb ofn; siarad â’n cymdogion ar draws y stryd; beicio neu gerdded i’r ysgol, gweithio ac ymwled ein siop leol; gweld ffrindiau a theulu; anadlu aer glân; a mynd o gwmpas yn ddiogel heb fod angen bod mewn ceir. Rhaid i’r cerbydau sy’n weddill fod yn drydanol, a gellid rhannu llawer ohonynt. Dyma sut y gallai dyfodol di-garbon edrych – hyd yn oed mewn ardal wledig.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Adrodd Straeon a Chynnwys Digidol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.