fbpx

Perchnogaeth Cymunedol yn Nyffryn Ogwen

20 Medi, 2021
Gan Chris Roberts

Mae GwyrddNi yn brosiect newydd gan DEG a phump menter gymunedol fydd yn sefydlu Cynulliadau Hinsawdd ledled Gwynedd. Chris Roberts yw Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi yn Dyffryn Ogwen. 

Mae Dyffryn Ogwen yn camu ymlaen wrth weithredu yn erbyn newid hinsawdd.  Yma gwelwn nifer o sefydliadau yn arwain y ffordd wrth ddychmygu dyfodol gwyrddach yn ein cymunedau. Dyma rhai esiamplau yn unig o’r gwaith sydd yn digwydd yn yr ardal.

Mae Clwb Rygbi Bethesda bellach yn glwb Rygbi Carbon Niwtral. Fe ail-ddylunwyd tŷ’r clwb yn ddiweddar diolch i help arian grantiau, gyda’r paneli solar ar y to yn sicrhau trydan o ffynhonell adnewyddadwy i’r safle. Nid y clwb rygbi’n unig sydd yn elwa o’r safle gwych yma; mae pob math o sefydliadau cymunedol yn gwneud defnydd o’r ystafelloedd. Mae’r clwb wedi derbyn nawdd pellach i wella bio-amrywiaeth ar y safle; cam arall i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Cynllun arall yn y dyffryn yw Ynni Ogwen. Dyma gwmni sydd yn creu ynni adnewyddadwy drwy gynllun hydro ar yr Afon Ogwen. Fe sefydlwyd y cwmni yma drwy ofyn wrth drigolion lleol i brynu cyfrandaliadau yn y cwmni. Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus a thrigolion lleol sydd nawr yn berchen ar y cwmni. Sefydlwyd Elusen Ogwen i ail-fuddoddi elw o Ynni Ogwen i brosiectau gwyrdd eraill yn y dyffryn.

Mae gan Partneriaeth Ogwen a Dyffryn Gwyrdd nifer o gynlluniau sydd yn mynd i’r afael â

newid hinsawdd gan gynnwys gerddi cymunedol, cynlluniau rhannu bwyd i leihau gwastraff a siop Cadwyn Ogwen sydd yn helpu i roi cyflenwyr lleol mewn cyswllt â chwsmeriaid yn y Dyffryn. Maent hefyd yn mynd i’r afael â thrafnidiaeth gwyrdd gyda clwb ceir trydan cymunedol ble gall trigolion logi car trydanol, a chynllun trwsio beiciau ac uwchraddio beiciau i fod yn feiciau trydanol mewn modd mwy fforddiadwy.

Drwy berchnogaeth lleol, gweledigaeth glir a chydweithio, mae cynlluniau cyffrous yma i wella bywydau pobl leol a gweithredu yn erbyn newid hinsawdd.  Mae’r chwant dros weithredu yn amlwg yn y Dyffryn. Gobeithio y bydd Cynulliad Hinsawdd GwyrddNi sbarduno rhagor o drafodaethau ac ysbrydoli syniadau pellach yn y gymuned.

Gan Chris Roberts

Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi yn Nyffryn Ogwen
chris@deg.cymru 

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.