fbpx
Gwelwch bob partner

Y Cylch Mentora

Mae'r Cylch Mentora yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth ac arweiniad mentora pwrpasol i bobl o bob oed a chefndir, er mwyn eu helpu i oresgyn rhwystrau sylweddol i gynhwysiant cymdeithasol. Rydym yn helpu unigolion a chymunedau i fynd i'r afael â'u heriau personol - boed hynny’n iechyd a lles, addysg, hyfforddiant, cyflogaeth, neu ymgartrefu yn y DU. Rydym yn cynnig gweithdai ar rianta, profedigaeth, iechyd meddwl, amrywiaeth, rhannu diwylliannau. Cynigir hefyd weithgareddau mentora grŵp amrywiol fel dosbarthiadau gwnïo, iechyd a lles, grŵp mamau a phlant, uwchgylchu, Bwyta'n Iach a sesiynau bore coffi. Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi helpu dros 125 o unigolion y flwyddyn yn uniongyrchol. Oherwydd y pandemig, mae gwirfoddolwyr / hwyluswyr / cydlynwyr Y Cylch Mentora yn cyflwyno mentora ar-lein i unigolion.

“Os na weithredwn am yr hinsawdd nawr, rydym yn niweidio cenedlaethau’r dyfodol. Wyt ti'n barod? Ar ôl gwneud fy ôl-radd mewn Cemeg, rwy'n ymwybodol o sut mae plastig yn creu allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Brevio

Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru

Bevan Foundation

Extinction Rebellion Cardigan

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.