WWF Cymru
Nature is vital. It provides our life-support system. But it’s under threat like never before.
So at WWF, they're fighting to restore thriving habitats and species.
“Newid yn yr hinsawdd yw'r her amgylcheddol fwyaf mae'r byd wedi'i hwynebu erioed, ond mae gennym yr atebion, a rydym yn gwybod y gall natur ymladd yn ôl. Rydym angen i bobl ar draws y byd weithredu ac ymuno yn y frwydr dros ein byd. Mae gwaith WWF i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn digwydd ar draws y byd, ond mae'r DU yn chwaraewr arbennig o bwysig oherwydd ein deddfwriaeth hinsawdd. Fel WWF Cymru, ein her i Lywodraeth nesaf Cymru yw ymateb i'r cyfleoedd sydd o'n Blaenau, drwy addo gwneud y canlynol: 1.Sicrhau economi werdd a chyfiawn trwy wneud natur yn ganolog i bob penderfyniad, a chreu rhaglen swyddi genedlaethol sy'n addas i’r dyfodol. 2. Diwygio'r system fwyd fel ei bod yn cyflawni ar gyfer natur a phobl drwy gynnwys arferion ffermio sy'n ystyriol o natur a'r hinsawdd, a diogelu natur dramor drwy ein gwneud y genedl dim datgoedwigo gyntaf. 3. Rhoi natur ar y llwybr i adferiad drwy warchod ein hafonydd, ein moroedd a'n tir i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol, trwy neilltuo 1% o'r holl gyllidebau adrannol i adfer natur a brwydro yn erbyn newid hinsawdd. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y byddwn yn sicrhau newid parhaol ac effaith fyd-eang. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethGower Power Co-op
Brevio
Discover Cymru
Olio
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.