Volcano Theatre Ltd
Sefydliad ymchwiliadol celfyddydol yw Volcano sydd wedi'i adeiladu ar arfer unigryw. Er bod gweithgareddau'r cwmni yn amrywiol ac yn bellgyrhaeddol, mae popeth a wnawn yn dibynnu ar iechyd a chywirdeb ein proses greadigol graidd. I ni, mae creu theatr yn ganolbwynt i rwydwaith o arferion a pherthnasoedd sydd wedi'u gwreiddio yn ninas Abertawe ac sy'n estyn allan trwy Gymru, y DU, Ewrop a thu hwnt.
“Yn Volcano, rydym yn gweithio’n agos o fewn ein cymuned a thu hwnt ac yn gweld ein rôl fel gwneuthurwyr newid, gan ymgysylltu, ysbrydoli a chysylltu ag eraill. Mae newid hinsawdd yn galw am newid diwylliannol ac, fel sector, mae gennym rôl unigryw i wneud hyn. Nid y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan newid hinsawdd yw'r cyfranwyr mwyaf. Cymer ein gwaith le yng nghanol y cymunedau hyn gan roi llais, platfform a chyfle i bobl sicrhau newid go iawn. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethAir Assault UK
Urdd Gobaith Cymru
Chomuzangari Womens Cooperative
We Swim Wild
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.