Urdd Gobaith Cymru
Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Mae’n sefydliad sydd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau. Mae’r Urdd yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru trwy eu canolfanau preswyl, darpariaeth chwaraeon, yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, prentisiaethau, cyfleoedd rhyngwladol a chyfranogi mewn gweithgareddau dyngarol, gan gynnwys Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd. Ers sefydlu yn 1922, mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiad o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar werthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
“Yn sefydliad sydd heddiw’n cefnogi cenhedlaeth o blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd yn gwynebu’r argyfwng hinsawdd, mae cymryd camau tuag at daclo’r argyfwng hon yn hynod o bwysig i’r Urdd. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethAwel Aman Tawe
Seas The Opportunity Ltd
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.