TUC Cymru
TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o aelod-undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli oddeutu 400,000 o weithwyr. Mae TUC Cymru yn ymgyrchu dros driniaeth deg yn y gwaith ynghyd â chyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.
“Mae TUC Cymru yn cydnabod mai’r argyfwng hinsawdd a natur yw un o’r bygythiadau mwyaf difrifol a wynebwn. Rydym yn croesawu targedau hinsawdd newydd uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero-net erbyn 2050, gyda chamau pendant yn y degawd nesaf. ”
“Fel undebau llafur, rydym wedi ymrwymo i ymdrefnu a symud i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac i sefyll dros degwch i weithwyr, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid. Rydym wedi galw am newid cyfiawn i sero-net – newid sy’n cael ei wneud gyda gweithwyr a chymunedau, nid iddyn nhw. Mae’n un sy’n creu dyfodol mwy gwyrdd a thecach sy’n diogelu swyddi, ein hiechyd a’r blaned. ”
“Rhaid inni osgoi camgymeriadau’r gorffennol, pan adawyd cymunedau cyfan ar ôl gan newid diwydiannol. Gyda chynllunio a chyllid priodol, ni fydd mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn golygu llai o swyddi ond, mewn gwirionedd, gallai gynyddu nifer y swyddi o ansawdd da. Ond gwyddom na fydd newid cyfiawn yn digwydd ar ei ben ei hun, ac mae amser yn mynd yn brin.”
“Mae ar lywodraeth y DU angen strategaeth ddiwydiannol werdd wedi’i hariannu’n briodol sy’n cyfateb i’w rhethreg ar uchelgais ynglŷn â’r hinsawdd. Dylai swyddi gwyrdd da fod wrth galon ein hadferiad economaidd ar ôl y pandemig. Ond nid yw cynlluniau llywodraeth y DU yn ddigon uchelgeisiol o bell ffordd. ”
“Rhaid cynyddu cyllid ar lefel y DU ar frys er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i ariannu ei blaenoriaethau hinsawdd ei hun. Mae angen swyddi gwyrdd da ar bob ardal, yn agos at gartref. Gallwn adfywio trefi a chymunedau sydd wedi colli diwydiannau traddodiadol, a sicrhau bod swyddi gwell ar gael i’r miliynau mewn swyddi ansicr ar gyflog sy’n gyfystyr â thlodi. Yng Nghymru, mae undebau llafur, Llywodraeth Cymru a chyflogwyr yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol a bydd undebau llafur yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed. Mae angen inni fod yn uchelgeisiol ynglŷn â’r hinsawdd gyda newid cyfiawn a gwaith teg i bawb ym mhob gweithle. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethCoriolis Energy
Ballet Gymru
The Arkbound Foundation
Rhwydwaith Economi Gylchol Caerdydd
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.