Tearfund Cymru
Elusen Gristnogol sy’n partneru ag eglwysi mewn dros 50 o wledydd tlotaf y byd yw Tearfund. Rydym yn mynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder trwy ddatblygu cynaliadwy, trwy ymateb i drychinebau a thrwy herio anghyfiawnder. Credwn fod modd i dlodi eithafol ddod i ben. Mae miloedd o bobl yn dioddef ac yn marw’n ddiangen bob dydd oherwydd tlodi. Ond nid dyna yw cynllun Duw ar gyfer y byd. Ac mae Duw yn galw arnoch chi – ar bob un ohonom – i estyn allan at y bobl sydd â’r angen mwyaf. Rydym yn partneru ag eglwysi a sefydliadau lleol sydd â rhan hanfodol i’w chwarae yn y mannau sy’n dioddef waethaf oherwydd tlodi.
“Gyda’n gilydd, galwn am i’r adferiad fydd yn dilyn coronafeirws daclo tlodi ac anghyfiawnder a helpu rhoi terfyn ar yr argyfwng hinsawdd. Rydyn ni am weld byd fydd yn cael ei ailwampio ar gyfer dyfodol gwyrddach, tecach wrth arwain tuag at, a thu hwnt i, COP26. Rydyn ni’n gweithio i gyflenwi, galluogi, gweddïo ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd fel Cristnogion, un ai’n unigol neu ar y cyd fel yr eglwys.”
Partneriaid eraill
Gweld popethCoed Cadw – the Woodland Trust
Be.Xellence
Platfform yr Amgylchedd Cymru
Cymdeithas y Mannau Agored
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.