Sustrans Cymru
Sustrans yw'r elusen sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio. Rydym yn cysylltu pobl a lleoedd, yn creu cymdogaethau iau, yn trawsnewid y daith ysgol ac yn darparu taith gymudo hapusach ac iachach. Mae Sustrans yn gweithio mewn partneriaeth, ac yn dod â phobl at ei gilydd i ddod o hyd i'r atebion cywir. Rydym yn pledio'r achos dros gerdded a beicio drwy ddefnyddio tystiolaeth gadarn, a drwy ddangos yr hyn y gellir ei wneud. Rydym wedi'n gwreiddio mewn cymunedau, ac yn credu bod cefnogaeth ar lawr gwlad ynghyd ag arweinyddiaeth wleidyddol yn sbarduno newid gwirioneddol, yn gyflym.
“Rydym eisiau gweld byd lle mae pobl wedi'u cysylltu drwy drafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol, a lle nad yw peidio â chael car yn effeithio ar eich gallu i gael eich cynnwys mewn cymdeithas. Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau arweinyddiaeth uchelgeisiol er mwyn sicrhau adferiad cynaliadwy o'r argyfwng hwn, sy'n deg i bawb yng Nghymru. Mae cyfle unigryw i ganolbwyntio ar wasanaethau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu pob defnyddiwr yn deg, ac i greu etifeddiaeth o'r radd flaenaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chyflwyno Cymru Yfory, i Bawb. ”
Christine Boston, Cyfarwyddwr
Partneriaid eraill
Gweld popethCrynwyr Cymru
Discover Cymru
Climate and Community
Coleg Black Mountains
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.