fbpx
Gwelwch bob partner

Sub-Sahara Advisory Panel

Ffurfiwyd Panel Cynghori Is-Sahara yn 2009, pan gyfarfu nifer o grwpiau diaspora Affricanaidd yng Nghymru i ystyried sut y gallent, gyda'i gilydd, ddatblygu eu diddordeb cyffredin mewn Datblygu Lleol a Rhyngwladol.

“Fel rhwydwaith o gymunedau Affricanaidd yng Nghymru, mae llawer o'n haelodau wedi gweld effaith newid yn yr hinsawdd, nid yn unig mewn gwledydd/cymunedau rydym yn dod ohonynt ond hefyd, yr effaith andwyol mae'n ei chael ar gymunedau wedi’u radicaleiddio yn y DU. Fel cymunedau diaspora, mae ein haelodau'n cael clywed am newidiadau i'r tywydd a sut mae hynny'n effeithio ar eu bywoliaeth a'u ffordd o fyw sydd yn ei dro, yn creu pwysau iddynt gefnogi cymunedau nôl adref. Mae'r rôl maen nhw'n ei chwarae ar yr hinsawdd yn ddibwys, ond nhw yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Oherwydd diffyg bywoliaeth, mae llawer o bobl ifanc yn chwilio am swyddi a diogelwch mewn mannau eraill. Rydym yn gweld mwy o bobl ifanc o wledydd incwm is eisiau gadael eu gwledydd a mynd ar deithiau peryglus i gael beth maen nhw eisiau. O fewn y gymuned ddiaspora yng Nghymru, mae llawer yn byw mewn dinasoedd/trefi lle mae'n anodd dod o hyd i fannau gwyrdd, ac mae llygredd aer yn uchel, ac maen nhw'n profi newid yn yr hinsawdd mewn ffyrdd tebyg a gwahanol i'w cymheiriaid yn Affrica. Rydym yn credu y dylai unrhyw gamau a gymerir gael effaith fyd-eang, gan na ellir mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar ein pen ein hunain. Dull gweithredu ar y cyd yn ymgodi o dderbyn bod rhaid i bob gwladwriaeth ysgwyddo tegwch a chyfrifoldeb, ac na all yr un wladwriaeth gymryd yr awenau ar ei phen ei hun.”

Fadhili Maghiya, Director

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Ruthin U3A Sustainable Living Group

TFSR Cymru

South Wales Baptist Association

Forest Stewardship Council UK

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.