fbpx
Gwelwch bob partner

Sgowtiaid Cymru

Mae ScoutsCymru rydym yn rhoi cyfle i dros 14,000 o bobl ifanc ddod yn unigolion ‘rhof gynnig arni a gwneud fy ngorau’ bob wythnos. O'u dysgu i goginio pryd o fwyd, i roi'r hyder iddynt ar gyfer eu cyfweliad prifysgol, rydym wedi sefydlu sgiliau oes iddynt. Rydym yn croesawu pawb yn y Sgowtiaid gan ein bod yn gwybod bod her ac antur yn aros i bawb p'un a ydych chi'n ymuno fel person ifanc neu fel gwirfoddolwr.

“Does dim rhaid i chi fod yn wyddonydd i wybod bod newid yn yr hinsawdd yn her go fawr. Fel ScoutsCymru, ac oherwydd bod ein harweiniad yn dod oddi wrth bobl ifanc sydd a’u dyfodol yn y fantol, rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb byd-eang. Ein menter allweddol yw yr Addewid i'r Blaned, addewid sy'n amlinellu sut y gall pobl ifanc wneud gwahaniaeth ymarferol yn eu cymunedau, defnyddio eu lleisiau i ysbrydoli'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, a chofnodi eu gweithredoedd dros y blaned. Anogir ein pobl ifanc i weithredu, cofnodi eu gweithredoedd ac yna rhannu'r gwaith hwnnw gyda'r byd. Annog eraill i fod yn rhan o'r sgwrs ac ymuno â ni yn y gwaith i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ochr yn ochr â Sgowtiaid ledled y DU rydym hefyd wrth ein bodd i fod yn rhan o'r gwaith i gyflawni Nodau Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig fel Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy, Defnydd a Chynhyrchu Cyfrifol, Gweithredu Hinsawdd, Bywyd Islaw Dŵr a Bywyd ar Dir a mwy. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw Newid Hinsawdd i bobl ifanc, a pha mor bwysig yw cymryd sylw o’r hyn sy’n digwydd. Rydym ni yn ScoutsCymru wedi ymrwymo i wneud ein rhan i greu dyfodol gwell a mwy cynaliadwy. ”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Cyngor Mwslimiaid Cymru

Croeso i’n Coedwig

CGGC

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.