Refill Cymru
Trwy'r ap Ail-lenwi ar sail lleoliad, mae pobl wedi'u cysylltu â lleoedd ble gallant fwyta, yfed a siopa heb y deunydd pacio dibwys. Gall unrhyw un lawrlwytho'r ap am ddim Refill i rwydwaith fyd-eang o lefydd i leihau, ailddefnyddio ac ail-lenwi.
“Bygythia llygredd plastigion iechyd biolegol ein amrywiol gefnforoedd, tra hefyd yn gwaethygu graddfeydd newid hinsoddol. Gwyddom bod plastigau a newid yn yr hinsawdd yn rhyng-gysylltiedig. Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd i allyriadau blynyddol plastigau gynyddu i fod dros 2.75 biliwn tunnell metrig o CO2e. Byddai hyn yn llyncu hyd at 10-13% o'r gyllideb garbon gyfan sy'n weddill. Bob blwyddyn yn fyd-eang rydym yn creu mwy na 300 miliwn tunnell o blastig - ac mae hanner hwn yn blastig defnydd untro. Poteli plastig yw un o'r troseddwyr gwaethaf, gyda miliwn ohonynt yn cael eu gwerthu bob munud ar draws y byd - ffigwr y disgwylir iddo dyfu 20% yn ychwanegol erbyn 2021. Dros y dair blynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Refill Cymru, ymgyrch Dinas i Fôr, sy'n ceisio gwahardd yr angen i brynu poteli dŵr plastig diangen. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun blaendal a dychwelyd ar gyfer cynhwyswyr diodydd gan gynnwys poteli plastig PET erbyn 1 Gorffennaf 2022, gyda tharged casglu o 90% erbyn 2025 yn ymdebygu i’r hyn y mae Llywodraeth yr Alban yn ei sefydlu ar hyn o bryd. Wrth i'n partneriaeth â Refill Cymru barhau i dyfu, credwn y dylai ffynhonnau yfed dŵr ddod yn nodweddion gorfodol mewn lleoliadau adeiladu newydd lle mae parciau chwarae ac ardaloedd gwyrdd cymdeithasol wedi’u cynllunio, yn ogystal ag mewn meysydd chwaraeon a hamdden a hybiau trafnidiaeth. Dylai Gorsafoedd Ail-lenwi hefyd fod yn orfodol mewn marathonau a gwahanol wyliau, gan adeiladu ar lwyddiant y Gorsafoedd Ail-lenwi yn Hanner Marathon Caerdydd ac ar gae Sioe Frenhinol Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i sicrhau bod atal ac ailddefnyddio yn cael eu blaenoriaethu, er sicrhau nad yw busnesau yn newid o un deunydd problemus i un arall. Gallai hyn fod yn gyfle i Gymru ddatblygu canllawiau clir ar yr hierarchaeth wastraff a beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol i fusnesau. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen amdano ar draws y cenhedloedd datganoledig. Mae Refill Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau ledled Cymru i ddarparu ffordd syml a chynaliadwy i ‘weithredwyr bob dydd’ a fydd yn creu newid parhaol yn eu cymunedau lleol. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethBe.Xellence
Swperbox CIC
Kaleidoscope Project
Chomuzangari Womens Cooperative
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.