Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp PCYDDS, conffederasiwn o nifer o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Cymru, ynghyd â Choleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn golegau cyfansoddol. Mae’r Grŵp yn cynnig continwwm o Addysg Bellach i Addysg Uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.
Gweledigaeth y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol sydd ag ymrwymiad i les a threftadaeth y genedl wrth wraidd ei holl weithgareddau. Yn ganolog i’r weledigaeth mae hyrwyddo ac ymgorffori system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, ac sy’n ysgogi datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ledled Cymru a thu hwnt.
Sefydlwyd y Brifysgol yn 1822 a bydd yn dathlu ei deucanmlwyddiant yn 2022. Hi yw man geni addysg uwch yng Nghymru. Ei Siarter Frenhinol 1828 yw’r hynaf gan unrhyw brifysgol yng Nghymru. Mae campysau’r Brifysgol wedi’u lleoli yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham.
Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud myfyrwyr yn ganolog i’w chenhadaeth trwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog perthnasol ac ysbrydoledig, darparu amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.
“Ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, rydym yn credu mewn 'Trawsnewid Bywydau' drwy 'Drawsnewid Addysg'. Rydym yn gweld mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a'r agenda datblygu cynaliadwy, fel rhan annatod o'r dull trawsnewidiol parhaus hwn, ac mae'n bwysig inni chwarae ein rhan. Rydym yn falch iawn o fod y Brifysgol gyntaf i ymuno â'r ymgyrch hon i helpu i 'daflu goleuni ar obaith' i bawb yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn cydnabod y gall pob ymdrech, waeth pa mor fach, wneud gwahaniaeth cadarnhaol i genedlaethau'r dyfodol a fydd yn mynd nid yn unig drwy ein drysau, ond i bawb yn ein cymunedau ehangach. Nid yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn opsiwn - mae'n ffordd o fyw yn y Drindod Dewi Sant. Ein nod yw sicrhau bod ein myfyrwyr, ein staff a'n partneriaid yn cael eu haddysgu i wneud penderfyniadau gwybodus, i gefnogi goroesi’r ddynoliaeth a'r blaned fel un. ”
“Making a positive difference is not an option, it’s a way of life at UWTSD. Our aim is to ensure that our students, staffs and partners are educated to make informed decisions, to support both the survival of humanity and the planet as one. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethCymdeithas y Mannau Agored
Air Assault UK
TUC Cymru
Yr Ŵyl Encil Fawr
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.