
Platfform yr Amgylchedd Cymru
Nod Platfform Amgylchedd Cymru yw cynyddu ansawdd a pherthnasedd y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rheolaeth amgylcheddol a llunio polisïau yng Nghymru. Maent yn gwneud hyn drwy gefnogi ymchwilwyr i ymgysylltu’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru drwy weithdai a gweithgorau a thrwy gefnogi datblygiad ceisiadau ariannu ar raddfa fawr sy’n uniongyrchol berthnasol i lunwyr polisi Cymru.
Ystyrir bod Cymru yn arwain y byd o ran ei hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 oedd y gyntaf o’i bath i wneud cysylltiad deddfwriaethol cryf â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2030. Yn 2016 rhoddodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) ddeddfwriaeth bellach ar waith i gynllunio a rheoli Adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig.
Er mwyn sicrhau Cymru iach, gydnerth sy’n gallu addasu a ffynnu yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, mae angen i lunwyr polisi gael mynediad at dystiolaeth ar draws ystod eang o faterion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a llesiant. Mae Platfform Amgylchedd Cymru yn dod â phrifysgolion, canolfannau ymchwil ac eraill at ei gilydd gyda’r nod o droi ymchwil o safon fyd-eang yn dystiolaeth o ansawdd uchel i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Gyda’n gilydd, mae gennym ymrwymiad cenedlaethol i sicrhau bod datblygiad polisi ac ymarfer wedi’i seilio’n dda ar dystiolaeth, gan fanteisio ar ragoriaeth ac amrywiaeth talent ymchwil yng Nghymru. Yn y modd hwn bydd EPW yn sicrhau bod ymchwil academaidd yn cael mwy o effaith o fewn y gymuned ehangach o ddefnyddwyr tystiolaeth ac yn y pen draw yn sicrhau buddion diriaethol i bobl Cymru.
Bydd EPW yn gwneud hyn drwy:
• Datblygu dulliau arloesol o nodi bylchau yn y dystiolaeth a deall anghenion defnyddwyr tystiolaeth yng Nghymru.
• Hwyluso cydweithio rhyngddisgyblaethol a thraws-sector i fynd i'r afael â bylchau tystiolaeth a nodwyd.
• Cefnogi cyfnewid arbenigedd a sgiliau rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr o fewn sefydliadau sy'n aelodau.
Partneriaid eraill
Gweld popeth
Deryn

Green Gathering

Llynges QED

Ysgol Tryfan
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.