fbpx
Gwelwch bob partner

National Federation of Women’s Institutes

National Federation of Women’s Institutes yw’r sefydliad mwyaf i ferched yn y Deyrnas Unedig, gyda dros 200,000 o aelodau mewn mwy na 6,000 o sefydliadau ledled Cymru, Lloegr a’r Ynysoedd. Yng Nghymru, mae gennym ryw 16,000 yn aelodau mewn 600 o sefydliadau.

“Mae gan SyM hanes hir a balch o weithredu i warchod a gwella ein hamgylchedd naturiol. Newid hinsawdd yw’r bygythiad unigol mwyaf i’r bobl a’r lleoedd rydym ni’n eu caru, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang. Yn rhy aml o lawer, merched o gwmpas y byd yw’r rhai sydd dioddef gyntaf a gwaethaf oherwydd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld effaith y newid yn yr hinsawdd ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol: mwy o lifogydd a thonnau o wres yn ystod yr haf yn y Deyrnas Unedig; a mwy o deiffwnau, sychdwr a thrychinebau naturiol eraill yn fyd-eang. Mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, mae’n angenrheidiol ein bod yn gweld arweinwyr y byd yn gweithredu yn uchelgeisiol a chyflym i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn unol â’r Cytundeb Paris. Wrth i’r DU paratoi i letya COP26, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ynghyd â Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl trwy gyflwyno polisïau cartref uchelgeisiol er mwyn annog arweinwyr y byd eraill i wneud yr un peth.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Community Transport Association

Coprod Network Wales logo

Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru

Grŵp Afonydd Caerdydd

Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, Cangen Menai (CCU Menai UNA)

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.