fbpx
Gwelwch bob partner

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru

Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuengtid Cymru (LHC) yn grŵp o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n Ymgyrchwyr brwd dros yr Hinsawdd sy’n brwydro i sicrhau Cyfiawnder Hinsawdd.

Fe’u cefnogir gan Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac fe’u hariennir gan Scottish Power Foundation, gyda’r nodau a’r camau gweithredu dan arweiniad Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.

“Fel sefydliad o ymgyrchwyr hinsawdd ieuenctid, rydym yn cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau, yn rhyngwladol ac yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid ei gymryd o ddifrif fel mater byd-eang. Mae gweithredu ar yr hinsawdd yn hanfodol er mwyn diogelu'r blaned a dyfodol cenedlaethau i ddod. Dim ond cyfnod bach o amser sydd gennym i weithredu, a dylai Llywodraethau fod yn ymrwymo i ddyfodol y blaned ac yn cymryd camau i wneud hyn, cyn ei bod yn rhy hwyr. Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru yn teimlo’n angerddol am ymhelaethu ar lais ieuenctid o ran gweithredu ar yr hinsawdd, ac yn rhoi blaenoriaeth iddo. Rydym eisiau annog a grymuso pobl ifanc i weithredu dros eu dyfodol a dyfodol y blaned tra'n gweithio gyda, a pharhau i gael perthnasau adeiladol gyda’r rheiny sy'n gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio adlewyrchu hyn yn ein gwaith. ”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Soil Association Cymru

Seas The Opportunity Ltd

Befriending Networks

Cyfeillion y Ddaear Rhuthun

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.