International Links (Global) Ltd.
Mae International Links (Global) Ltd yn gweithio gydag unrhyw sefydliad sy'n gwneud addysg a lles yn flaenoriaeth i bobl ifanc, oedolion neu ieuenctid. Gallai hynny fod yn ysgol, clwb ieuenctid, grŵp chwaraeon neu’n gymuned. Ar y cyfan, maen nhw’n gweithio gydag ysgolion, o'r ysgol feithrin i'r ysgol uwchradd a hefyd, gyda phrifysgolion. Maen nhw’n galluogi athrawon/darlithwyr/cynghorwyr, staff cymorth a llywodraethwyr i gael hyfforddiant a rhannu arfer da o ysgol i ysgol ar draws y byd, yn enwedig Ewrop. Yn ogystal, maen nhw’n gweithio gyda phrifysgolion, sefydliadau arbenigol ac ymchwilwyr i ddarparu'r gefnogaeth bartneriaeth allweddol, fel bod eu prosiectau o'r safon uchaf. Maen nhw’n casglu ac yn cyflwyno ymchwil hanfodol i’w defnyddio mewn ystadegau addysg, fel rhan o rai o’u prosiectau a ariennir.
“Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion a phobl ifanc ar draws y byd. Mae'r argyfwng hinsawdd presennol yn effeithio ar bob un ohonom, ac mae'n galonogol gweld cenedlaethau'r dyfodol yn ceisio cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Ein nod yw cefnogi pobl ifanc yn fyd-eang fel dinasyddion gweithgar.”
Partneriaid eraill
Gweld popethYmgyrch Undod Palestina Caerdydd
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru
Gwarchod Glöynnod Byw Cymru.
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.