Gilfach Goch Community Association
Wedi’i sefydlu ym 1996 gan y gymuned, ar gyfer y gymuned, mae Gilfach Goch Community Association neu GGCA fel y’i gelwir yn lleol, yn cynnig nifer fawr o wasanaethau, prosiectau, dosbarthiadau, cyrsiau a gweithgareddau i bobl o bob oed a gallu gyda phwyslais arbennig ar gefnogi y grwpiau mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas. Gydag ymrwymiad i wella bywydau’r rhai sy’n byw yn y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt, rydym yn sicrhau bod ein holl waith yn seiliedig ar angen a nodwyd, wedi’i addasu ar gyfer pob gallu ac yn gynhwysol i bawb o’r cyfle cyntaf. Rydym yn cyflawni hyn drwy gefnogi pobl i ymgysylltu ar bob lefel. Gyda chefnogaeth tîm o wirfoddolwyr rydym yn gallu bod o fudd i'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt trwy hybu addysg, hybu iechyd da a lleddfu tlodi, trallod a salwch.
“Fel sefydliad sy’n ceisio gwella bywydau’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw a’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt, rydyn ni eisiau gwneud yr hyn a allwn i fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd. Ein nod yw cefnogi pobl i ddeall bod gan bob un ohonom ran i’w chwarae i leihau ein hôl troed carbon. Boed fel unigolyn sydd gartref neu grŵp yn y gymuned, bydd y camau y mae’n rhaid inni eu cymryd nawr yn ein helpu yn ein dyfodol ac yn y dyfodol yn y cenedlaethau i ddod. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethComisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Y Dref Werdd
Gower Power Co-op
Cynnal Cymru
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.