fbpx
Gwelwch bob partner

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen sy’n ymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, i gynaliadwyaeth, dysgu gydol oes, a mwynhad yr ymwelydd.

“Mae effaith datblygu diwydiannol a'r newid yn yr hinsawdd o ganlyniad, wedi dod yn fwy a mwy amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at ddirywiad byd-eang mewn bioamrywiaeth. Yn 2019, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd, ac wrth i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddechrau ei thrydedd degawd fel rhan o rwydwaith byd-eang o erddi botaneg sy'n gweithio i ddiogelu’r ecosystemau rydym i gyd yn dibynnu arnynt, mae rhaglenni cadwraeth, ymchwil ac addysg yr Ardd Fotaneg hon yn dod yn bwysicach fyth i iechyd a lles pobl a'r blaned. ”

“Tra'n gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol ar brosiectau, gan gynnwys adfer coedwigoedd glaw yn Borneo a diogelu magnolias prin yn Fietnam, mae'r Ardd Fotaneg wrthi'n gweithio hefyd ar ddiogelu planhigion sydd dan fygythiad ac sydd mewn perygl, sydd ond yn tyfu mewn rhannau ynysig o Gymru, neu mewn rhai achosion, sydd hyd yn oed yn ddarfodedig yn y gwyllt.”

“Ar ôl cael ei greu mor ddiweddar â 2000, roedd egwyddorion cadwraeth bioamrywiaeth a chynaliadwyedd fel y'u cynhwysir ym Mhrotocol Nagoya, y Strategaeth Fyd-eang ar gyfer Cadwraeth Planhigion (GSPC), Nodau Datblygu'r Mileniwm ac y’u hymgorfforir yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), yn egwyddorion sylfaenol pwysig i'r sefydliad. Adeiladwyd ein casgliadau planhigion rhyngwladol mewn partneriaeth â gwlad y ffynhonnell, er mwyn sicrhau bod unrhyw fanteision sy'n deillio ohonynt yn cael eu rhannu'n deg ac yn gyfartal.”

“Yn ei hanes byr, mae'r Ardd Fotaneg wedi dod yn enwog yn rhyngwladol am ei gweithgareddau ymchwil, wedi creu un o'r casgliadau ex-situ gorau o blanhigion hinsawdd Môr y Canoldir yn y byd, wedi diogelu ac amddiffyn rhai o'r planhigion Cymreig endemig mwyaf prin a mwyaf bygythiol, ac mae'n Llysgennad i Gymru ar draws y byd.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Hwb Eco Aber

The Orchard Project

UK Youth for Nature

The Emergency Room

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.