fbpx
Gwelwch bob partner

F.A.N. (Friends and Neighbours) Community Alliance

Pwrpas F.A.N. (Friends and Neighbours) Community Alliance ydy dod â'r gymuned at ei gilydd – lleihau unigrwydd, cryfhau bondiau, meithrin gwydnwch, adfywio ysbryd cymunedol. Fe'u ffurfiwyd yn 2008, a daethant yn elusen gofrestredig yn 2019. Mae 17 o ymddiriedolwyr a thros 100 o aelodau. Maen nhw’n rheoli’r Ganolfan Cyfeillion a Chymdogion, a The Lane Community Garden; yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol; yn cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli, grwpiau preswylwyr a Grŵp Ieuenctid Mini F.A.N.s; ac yn hyrwyddo cyfrifoldeb am ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd.

“Mae F.A.N yn cydnabod y cysylltiad rhwng yr hinsawdd ac argyfyngau amgylcheddol eraill, a'r bygythiad o ddigartrefedd, clefydau, prinder bwyd a dŵr a thlodi ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i filiynau o bobl ar draws y byd, yn ogystal â'r difrod mawr sy'n cael ei achosi i'n hecosystemau naturiol. Rydym yn cydnabod ein bod ni mewn argyfwng hinsawdd ac ecolegol, ac yn ei drin fel y cyfryw - oherwydd os na wnawn ni hynny, ni fyddan nhw’n gwneud hynny. Mae angen i lywodraethau gymryd cyngor gwyddonol a gweithredu arno - mae'r amser ar ben i drafod os a phryd. Mae angen gweithredu nawr! ”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Canolfan y Dechnoleg Amgen

Caffi Trwsio Cymru

Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol

Yr Ŵyl Encil Fawr

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.