Dolen Ffermio
Wedi’i leoli yng Nghymru ac Uganda, mae Dolen Ffermio yn elusen fach wedi’i rhedeg gan wirfoddolwyr, sydd yn hybu dulliau ffermio cynaliadwy a hyfforddiant sgiliau yn Uganda. Mae’r sefydliad yn gweithio llaw yn llaw gyda chymunedau gwledig, er mwyn iddyn nhw gael mynediad at ddŵr, defnyddio technegau paramaethu i dyfu bwyd maethlon a hyfforddi mewn sgiliau galwedigaethol i greu cyfleoedd am bobl ifanc a’u teuluoedd.
“Mae ein partneriaid yn Uganda yn ffermwyr a gweithwyr sy’n wynebu heriau cynyddol wrth i’r effeithiau newid hinsawdd, megis sychder, llifogydd, cynhaeaf yn crebachu a chlefyd cnwd. Rydym eisiau i ein harweinwyr gweithredu yn effeithiol yn yr hinsawdd sydd yn gysylltiedig â hawliau dynol, cydraddoldeb a chyfrifoldebau hanesyddol. Mae angen i lywodraeth Cymru a’r DU cymryd arweinyddiaeth ar lefel rhyngwladol. Rydym yn galw am newid tuag at gyfiawnder hinsawdd i wledydd incwm isel yn y de byd-eang lle mae mwy o berygl o effeithiau newid hinsawdd. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn alluogi gweithredu ar y cyd a phwrpasol, a darganfod datrysiad cywir ar lefelau lleol. ”
Partneriaid eraill
Gweld popethAwel Aman Tawe
Adfywio Cymru
Cymru Masnach Deg
Dinas Noddfa
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.