Cytundeb Gwyrdd Newydd Caerdydd
Mae'r Fargen Newydd Werdd yn gysyniad pwerus a phoblogaidd y mae llawer o grwpiau ac unigolion yn trefnu o’i gwmpas. Does dim un grŵp penodol yn 'berchen' ar y syniad hwn, ond rydym i gyd yn elwa o gydweithio a chydlynu ar draws ein gwahanol ddulliau.
“Rydym yn wynebu'r argyfwng hinsawdd a natur, sy'n gwaethygu anghydraddoldeb, ac sy’n cael effaith negyddol ar ein hiechyd a'n lles. Er mwyn goroesi, mae'n rhaid inni greu llwybr newydd i'n heconomi er mwyn diogelu ac adeiladu'r pethau sy'n bwysig i ni: pethau fel iechyd, tegwch a chymuned. Er mwyn gwneud hyn, mae’n ofynnol i lywodraethau a llunwyr polisïau weithio gyda’i gilydd ar gynllunio cynlluniau buddsoddi mawr, 360 gradd, a fydd yn dadgarboneiddio ein heconomi ac yn creu swyddi gwyrdd diogel sy'n talu'n dda i bawb. Bydd gan bobl gartrefi o safon, aer glân, ynni cynaliadwy a chludiant fforddiadwy. Bydd ein gweledigaeth ar gyfer bargen newydd werdd go iawn yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth symud i economi ddigarbon.”
Partneriaid eraill
Gweld popethPrifysgol y Drindod Dewi Sant
Coal Action Network
Llynges QED
Rhwydwaith Weithredu Hinsawdd RhCT
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.