Cymdeithas Tir Pontypridd
Mae Cymdeithas Tir Pontypridd wedi'i sefydlu i gefnogi datblygu cynaliadwy er budd y cyhoedd trwy gadw / cadwraeth tir ac adeiladau er mwyn lleddfu tlodi ac adfywio o fewn tref Pontypridd a'r cyffiniau. Yn y tymor hir gweledigaeth Cymdeithas Tir Pontypridd yw sefydlu cymdeithas budd cymunedol a all brynu tir ac eiddo at ddibenion datblygu cynaliadwy tymor hir ac adfywio cymunedol.
“Mae dosbarthiad tir yn y DU yn anwastad iawn, gyda rhan fwyaf o’r boblogaeth wedi’u heithrio o’r tir sydd o’u cwmpas. Felly gall adfywio a weithredir gan y gymuned a gweithredu ar newid hinsawdd fod yn ddibynnol iawn ar gael caniatâd perchnogion tir eiddo yn y sector cyhoeddus neu breifat cyn gallu datblygu prosiectau neu fentrau'. Gall y broses gychwynnol hon ynddo'i hun ddefnyddio llawer iawn o allu cymunedol, gan gyfyngu'n fawr ar yr hyn y mae'n bosibl i gymunedau ei wneud. Trwy gyflwyno deddfwriaethau hawl y gymuned i brynu, yn debyg i'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban, gall adeiladau a thir fod ar gael i gymunedau fel y gallant wireddu eu blaenoriaethau eu hunain heb orfod cardota am ganiatâd gan eraill. O leiniau bach o fannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol, i'r daliadau tir mawr sydd wedi'u clymu mewn ystadau preifat, nid yw'r DU yn brin o'r tir sydd ei angen arno i fwydo ei hun a diwallu anghenion cymunedol. Yr hyn mae yn fyr ohono yw mynediad i'r tir hwnnw.”
Partneriaid eraill
Gweld popethHub Cymru Africa
Deche
Crynwyr Gogledd Cymru
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.