Community Transport Association
Ym mhob rhan o'r DU, ar bob diwrnod o'r flwyddyn, mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr trafnidiaeth gymunedol yn helpu pobl i aros yn annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau, a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a chyflogaeth hanfodol. Mae Community Tranport Association yn elusen genedlaethol, sy'n cynrychioli ac yn cefnogi'r sefydliadau hyn: miloedd o elusennau, grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau eraill, sydd i gyd yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy'n cyflawni diben cymdeithasol a buddiannau cymunedol. Maen nhw’n cefnogi ac yn ymwneud â thrafnidiaeth hygyrch a chynhwysol.
“Gyda thrafnidiaeth yn cyfrannu tua 17% o allyriadau carbon yng Nghymru, mae'n hanfodol bod y sector trafnidiaeth yn cael ei gefnogi i ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n effeithiol yn y tymor byr , n ogystal â darparu atebion hygyrch sydd hefyd yn gweithio i genedlaethau'r dyfodol. Mae rhannu teithio a newid i ffwrdd o'r car preifat yn rhan hanfodol o'r newid ymddygiad y mae'n rhaid iddo ddigwydd er mwyn i Gymru fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac mae aelodau CTA wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth o atebion trafnidiaeth cynaliadwy yn y gymuned sy'n gweithio i bawb.”
Partneriaid eraill
Gweld popethGroundwork Wales
Chomuzangari Womens Cooperative
Neo
Here Now Films
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.