fbpx
Gwelwch bob partner

Coed Cadw – the Woodland Trust

Coed Cadw ydym ni, y Woodland Trust yng Nghymru. Rydyn ni’n plannu coed ac yn ymgyrchu i sicrhau fod coetir a choed yn cael eu gwarchod ar draws y wlad. Rydym hefyd yn gofalu am dros gant o goedlannau y mae croeso i chi ymweld â nhw pryd bynnag rydych chi eisiau. Gyda’n gilydd, gallwn sefyll dros goed yng Nghymru. Er mwyn bywyd gwyllt. Er mwyn pobl.

Yn ein Maniffesto (https://www.woodlandtrust.org.uk/publications/2021/03/etholiadau-senedd-cymru-maniffesto-2021/) rydyn ni’n dangos sut gall coed ein helpu yr adeg yma i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd ac adeiladu economi sy’n gydnerth o ran yr hinsawdd a chymdeithas lle mae natur yn gyforiog, un sy’n addas i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae’r pandemig Covid-19 wedi ein llorio i gyd. Ar yr un pryd, rydyn ni yng nghanol argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth ar y cyd. Rhaid i’n hadferiad fynd i’r afael â hyn yn syth, ar frys a chyda ffocws, i leihau’r effeithiau heddiw ac ar genedlaethau yn y dyfodol. Dychwelyd i’r normal fydd ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol. Y tri phrif ‘wreiddyn’ hyn yw ein sylfeini ar gyfer Cymru gref a chydnerth:

1 Gwyrddio ein Trefi a’n Dinasoedd

2 Cefnogi Cymunedau Amaethyddol gyda Choed

3 Cysylltu Cymru ag Economi Goetiroedd

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Displaced People in Action

Here Now Films

CIWM Cymru

Oriel Mon

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.