
Climate and Community
Mae Climate and Community (rhif cofrestru 1172500) wedi'i sefydlu a'i symbylu gan ofal a phryder am yr amgylchedd y byddwn yn ei drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Rydym eisiau ymgysylltu â sefydliadau cymunedol i ddangos, hwyluso a hyrwyddo arfer gorau o ran cynnal a diogelu’r amgylchedd. Rydym yn credu mai un o’r materion allweddol wrth fynd i'r afael â phroblemau fel yr hinsawdd sy’n cynhesu, yw esblygu trefniadau economaidd newydd sy'n ei gwneud yn bosibl i bobl weithio mewn cytgord â natur. Rydym yn ceisio torri'r caethiwed i’r ynni hawdd mewn tanwydd ffosil sy'n gwneud cynefin cynaliadwy yn anfforddiadwy yn ôl y dadansoddiad cost economaidd presennol. Rydym yn credu bod addysg radical yn ffordd o greu newid heddychlon ac yn wrthgyffur i newid treisgar ac aflonyddwch yn y dyfodol. Mae gwrthdaro yn bosibiliad os nad ydym yn gweithredu nawr.
“Yr ateb cyffredinol yw sbarduno newid mawr mewn ymddygiad i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio dinistriol tuag at fyw'n gynaliadwy. Dylai hyn ddechrau gydag ailsgilio'r rheini sy'n dymuno mabwysiadu ffermio a choedwigaeth adfywiol ar y tir, i ddarparu bwyd a deunyddiau a dyfir yn lleol. Gwaith dydd i ddydd yr elusen yw gwneud i hyn ddigwydd mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon, sy'n ennyn diddordeb ac yn addysgu pobl gyffredin”
Partneriaid eraill
Gweld popeth
Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth

Heddwch Hinsawdd

Dolen Cymru Wales Lesotho Link

Gower Power Co-op
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.