fbpx
Gwelwch bob partner

CIWM Cymru

Y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a sefydlwyd ym 1898, yw'r prif gorff proffesiynol ar gyfer y sector rheoli adnoddau a gwastraff, gyda'r diben o symud y byd y tu hwnt i wastraff. Mae’r sefydliad yn cynrychioli dros 5,500 o unigolion yn y DU, Iwerddon a thramor, a’i genhadaeth ydy uno, cyfarparu a sbarduno’i gymuned broffesiynol i arwain, dylanwadu a chyflwyno gwyddoniaeth, strategaethau, busnesau a pholisïau ar gyfer rheoli adnoddau a gwastraff yn gynaliadwy. Mae gan CIWM ddeg canolfan ranbarthol ar draws y DU ac Iwerddon, gan gynnwys CIWM Cymru Wales, sy'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr sy'n aelodau. Mae CIWM Cymru Wales yn trefnu rhaglen helaeth o gyfarfodydd technegol, ymweliadau safle, symposia a digwyddiadau cymdeithasol. Mae’n cynrychioli dros 350 o weithwyr gwastraff proffesiynol sy'n gweithio mewn llywodraethau lleol a chenedlaethol, asiantaethau, cwmnïau gwastraff preifat, ymgynghoriaethau, mentrau cymdeithasol yn ogystal â chanolfannau addysg ac ymchwil, Mae CIWM Cymru Wales yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth broffesiynol, a'r cyfle i aelodau gyfarfod a chymdeithasu drwy rwydwaith cryf o weithwyr proffesiynol. Drwy ein gwybodaeth ddigyffelyb am y sector a’n henw da proffesiynol a dibynadwy, rydym yn llywio ac yn dylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisi yn y dyfodol, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio rôl ac enw da'r diwydiant yn y dyfodol. Mae ein rhwydweithiau, ein harbenigedd a'n hadnoddau yn ein galluogi i gysylltu arloeswyr ac arweinwyr busnes o bob rhan o'r dirwedd gynaliadwyedd, i ffurfio cymuned rymus sy'n ysbrydoledig ac yn angerddol am wella rheolaeth gynaliadwy o ran adnoddau a gwastraff.

“Yn gyson â chenhadaeth gyffredinol CIWM, mae CIWM Cymru yn credu y gall y sector adnoddau a gwastraff chwarae rhan bwysig yn yr ymdrechion i liniaru newid yn yr hinsawdd. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud y gellir lleihau allyriadau’r sector gwastraff yn y DU 75% erbyn 2050, yn ôl ei ragfynegiadau ‘Balanced Net Zero Pathway’ ar gyfer gwastraff.

Gellir lleihau’r allyriadau hyn drwy barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd ag y bo modd, gan arwain at lai o wastraff ac felly, llai o allyriadau’n cael eu cynhyrchu mewn safleoedd tirlenwi a llosgyddion sy’n cynhyrchu’r rhan helaeth ohonynt. Mae CIWM Cymru o’r farn bod y newid i economi gylchol yng Nghymru o economi linol, sef un sy’n cymryd, yn gwneud ac yn gwaredu deunyddiau, yn gofyn am ymrwymiad i reoli gwastraff ac adnoddau yn gynaliadwy o bob sector o’r gymuned. Mae angen cynhyrchu llai o wastraff drwy benderfyniadau prynu a dylunio a datblygu cynhyrchion cynaliadwy. Mae angen ehangu mwy o seilwaith ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio, a buddsoddi mwy yn ein gallu i ailgylchu deunyddiau fel gwastraff plastig a deunydd pacio. Yn olaf, mae’n rhaid lleihau llosgi a thirlenwi i’r eithaf, gan fod allyriadau’r sector gwastraff yn ymgodi’n bennaf o ddadelfennu deunydd organig mewn safleoedd tirlenwi, ac anfon llai o wastraff gweddilliol at Ynni o Wastraff.

Rydym yn credu bod cymhwyso egwyddorion economi gylchol i drawsnewid y ffordd y caiff nwyddau a deunyddiau eu cynhyrchu a’u defnyddio yn yr economi , n rhoi’r cyfle i ni fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, creu mwy o wytnwch, a chynyddu cynaliadwyedd.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

John Muir Trust

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Ynni Cymunedol Sir Benfro

The Commitment

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.