Chwarae Teg
Chwarae Teg yw'r elusen sy'n ysbrydoli, arwain a darparu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru.
Mae Chwarae Teg yn bodoli i gefnogi:
▪ Merched yn yr Economi; Cymru tecach lle mae menywod yn cyflawni ac yn ffynnu ar draws pob sector ac ar bob lefel yn yr economi
▪ Cynrychioli Merched; Cymru tecach lle mae menywod yn weladwy ac yn ddylanwadol ar draws pob sector o'r economi, cymdeithas ac mewn bywyd cyhoeddus a
▪ Merched mewn Perygl; Cymru tecach lle mae menywod yn cael eu grymuso i gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir, eu statws cymdeithasol, neu eu lleoliad daearyddol.
“Er mai ein cenhadaeth yw ysbrydoli, arwain a darparu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru rydym am ei wneud mewn ffordd sy'n amddiffyn ac yn gwarchod ein hamgylchedd. Rydym yn credu mewn arferion gwyrdd moesegol sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ar bob lefel o gyflawni ein prosiect. Fel deiliad Gwobr y Ddraig Werdd, rydym yn ymdrechu i wneud gwelliannau cyson yn ein sefydliad i leihau ein hôl troed carbon a gweithio tuag at ddyfodol mwy gwyrdd i bawb. Hoffem weld gweithredoedd diriaethol go iawn gan ein harweinwyr o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru a gwell seilwaith i gynorthwyo pob unigolyn i gael mynediad at ddewisiadau cynaliadwy amgen.”
Partneriaid eraill
Gweld popethCroeso i’n Coedwig
Discover Cymru
The Commitment
Cyfarfod Crynwyr Penarth
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.