Bwyd Dros Ben Aber Food Surplus
Mae Aber Food Surplus yn fenter gymdeithasol arloesol, nid-er-elw, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â gwastraff bwyd a sicrhau newid cymunedol ystyrlon. Eu nod yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau, a gwneud hyn mewn ffordd gydweithredol, greadigol ac adeiladol. Maen nhw’n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, ac yn ei wneud nawr, lle maen nhw’n credu y gallant wneud gwahaniaeth. Yno, yn eu cymuned leol. Eu gweledigaeth yw cynorthwyo Aberystwyth i fod yn dref dim gwastraff bwyd ac yn y broses, darparu cyfleoedd pwerus, a datblygu cadernid bwyd lleol.
“Mae tyfu, coginio a rhannu bwyd fel cymuned yn cyfrannu at system fwyd mwy cynaliadwy, cyffrous a chyfranogol, lle gallwn ddysgu gyda'n gilydd am ffyrdd iach o fyw, a chyfrannu'n gadarnhaol at ein hamgylcheddau. Gallai newid y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn cael gafael ar fwyd gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylcheddau, a dod â llawenydd, cadernid ac entrepreneuriaeth i'n cymunedau.”
Partneriaid eraill
Gweld popethPenarth Fairtrade Forum
Hwb Eco Aber
Yr Eglwys yng Nghymru
Cardiff Third Sector Council (C3SC)
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.