fbpx
Gwelwch bob partner

Achub y Plant – Cymru

Mae Achub y Plant yn credu bod gan bob plentyn y hawl i blentyndod diogel, iach a hapus. Yng Nghymru mae ffocws yr elusen ar leihau nifer y plant sy'n tyfu i fyny mewn tlodi a gweithio gydag eraill i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

““Mae plant ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd. Rydyn ni'n ymateb bob dydd i argyfyngau a achosir gan ddigwyddiadau tywydd eithafol fel sychder, llifogydd a stormydd - ac rydyn ni'n gweld sut maen nhw'n effeithio ar ddiffyg maeth plant, tlodi, ac achosion o glefyd. Bydd ymateb y byd i newid yn yr hinsawdd yn penderfynu ar ragolygon nid yn unig miliynau o blant nawr, ond cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Yn ystod COP26, mae gan y DU gyfle a chyfrifoldeb enfawr i ddod â’r byd ynghyd y tu ôl i gynllun i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi’r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf. Yn anffodus, bydd toriadau i’n cyllideb cymorth yn golygu llai o gefnogaeth i blant sy’n byw mewn gwledydd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan yn yr argyfwng hinsawdd. Mae galw ar wledydd eraill i wneud mwy tra bod y DU yn gwneud llai yn dangos diffyg arweinyddiaeth dirfawr. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU beidio â pharhau gyda’r cynllun i dorri y cymorth dynagarol ar frys.” “Rydyn ni wedi gweld y grym sydd gan leisiau plant wrth arwain y ffordd ar newid hinsawdd yn fyd-eang. Dylai llywodraethau gan gynnwys Llywodraeth Cymru wrando ar eu lleisiau, gweithredu ar frys a sicrhau bod COP26 yn cynhyrchu canlyniadau. ”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Coriolis Energy

Ymddiriedolaeth Nelson

John Muir Trust

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.