Academi Heddwch Cymru
Diben yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch, drwy ddatblygu a chydgysylltu cymuned o ymchwilwyr annibynnol mewn meysydd cysylltiedig. Bydd Academi Heddwch Cymru yn gweithio i sicrhau bod lle cadarn i heddwch ar agenda genedlaethol Cymru ac ar y llwyfan cenedlaethol, drwy gyfrwng y rhwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch sydd eisoes yn bodoli.
“Mae miliynau o bobl eisoes wedi eu dadleoli oherwydd gwrthdaro ac erledigaeth. Bydd yr argyfyngau a welir ym myd natur a’r hinsawdd yn arwain at orfodi miliynau yn rhagor o bobl i adael eu catrefi a’u cynefin. Bydd prinder adnoddau yn arwain at fwy o wrthdaro ac yn gorfodi allfudo. A’r rheiny sy’n debygol o ddioddef fwyaf yw’r rhai sydd wedi cyfrannu leiaf at achosion newid hinsawdd. Oherwydd hyn mae’r Academi Heddwch yn galw ar arweinwyr byd i weithredu ar fyrder ac i ymrwymo yn COP 26 i wella’r argyfyngau ym myd natur ac yn yr hinsawdd.”
Partneriaid eraill
Gweld popethCardiff Greenpeace
Soil Association Cymru
TYF
Fforwm Amgylcheddol Abertawe
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.