fbpx
Gwelwch bob partner

Soka Gakkai International UK (SGI-UK)

Mae SGI-UK yn sefydliad lleyg Bwdhaidd sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas ac sydd ag aelodau mewn 192 o wledydd a thiriogaethau. Mae gan y sefydliad hanes hir o archwilio materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd, bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd, yn ogystal ag eirioli dros ddiddymu arfau niwclear. Ynghyd â'r Centre for Applied Buddhsim, mae SGI-UK wedi bod yn trefnu gweminarau misol i addysgu, archwilio a thrafod materion sy'n ymwneud â'r argyfwng hinsawdd tuag at COP26. Mae'r digwyddiadau hyn yn hyrwyddo'r cysyniad Bwdhaidd sylfaenol o 'gydberthynas', cyd-ddibyniaeth a chydgysylltiad pob ffurf ar fywyd, ac mae'n bwriadu ysbrydoli gobaith a gweithredu dros newid.

“Fel y dengys adroddiad diweddar yr IPCC yn glir, rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd ac ecolegol digynsail, ac mae'r ddegawd hon yn hanfodol ar gyfer troi'r llanw o ymddygiad dynion. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb pwerus i gymryd camau unigol ac ar y cyd i atal y byd rhag cynhesu’n fwy nag 1.5 gradd. Mae gan y llywodraeth rwymedigaeth foesol i ddeddfu dros, a symud cyllid tuag at, drawsnewid i gymdeithas gyfiawn a chynaliadwy, i roi terfyn ar bob cymorthdaliadau tanwydd ffosil, ac i gefnogi ynni adnewyddadwy yn lle hynny, i ariannu trafnidiaeth gyhoeddus a thrydaneiddio, cefnogi cynhyrchu a ffermio bwyd cynaliadwy yn ogystal â phrosiectau dad-ddofi tir. Hefyd, rydym yn galw ar y llywodraeth i arwain y ffordd o ran dod o hyd i ffynonellau cyllid newydd ac ychwanegol ar gyfer colled a difrod sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i bobl a chymdeithasau sydd eisoes yn cael eu heffeithio gan newid yn yr hinsawdd sy'n symud yn araf, fel codiadau yn lefel y môr, yn ogystal â thywydd eithafol.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

AGEAH (Adeiladu Gwydnwch yn Erbyn Argyfwng Hinsawdd)

GwyrddNi

Pembrokeshire Coastal Forum

Sgiliau NOW

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.