FareShare Cymru
Mae Fareshare Cymru, a sefydlwyd yn 2010, yn gweithio i ymladd newyn drwy daclo gwastraff bwyd. Fe gymerwn fwyd bwytadwy sy’n weddill gan y diwydiant bwyd, a’i ddefnyddio i gynorthwyo grwpiau bregus; megis y digartref, yr henoed, plant neu grwpiau eraill sy’n dioddef o dlodi bwyd yn ein cymunedau. Ers 2011 rydym wedi ail ddosbarthu dros 4447 tunnell o fwyd dros ben, digon i gyfrannu at dros 10.5 miliwn o brydau bwyd, sydd wedi arbed dros 13,741 t Co2e.
Mae dros dau filiwn o dunelli o fwyd sy’n ddigon da i’w fwyta yn mynd i wastraff bob blwyddyn yn y DU. Byddai modd paratoi 1.3 biliwn o brydau bwyd o’r bwyd hwn. Ledled y DU, caiff 27 miliwn tunnell o allyriadau CO2 eu cynhyrchu o wastraff bwyd, sy’n fwy o allyriadau CO2 na Sri Lanka gyfan.
Mae hyn oll yn ystod cyfnod pan mae bron i chwarter o boblogaeth Cymru (700,000) yn byw mewn tlodi, ac mae pobl yn ei chael hi’n anodd cael mydediad at fwyd da a maethlon, ac yn Mynd heb fwyd yn rheolaidd. Mae’n foesol anghywir ac yn gwneud dim synnwyr amgylcheddol bod yna gymaint o wastraff yn ystod cyfnod lle mae yna gymaint o angen. Mae’n rhaid i bob cwmni, elusen ac awdurdod weithio ar y cyd nawr i gael bwyd dros ben ar blatiau pobl.
“Mae dros ddwy filiwn o dunelli o fwyd da y gellir ei fwyta yn mynd yn wastraff bob blwyddyn yn y DU, y gellid gwneud 1.3 biliwn o brydau bwyd ohono. Ar draws cadwyn gyflenwi gyfan y DU, mae'r hyn sy'n cyfateb i 27 miliwn tunnell o CO2 yn cael ei daflu o wastraff bwyd, sy'n fwy o allyriadau C02 na gwlad gyfan Sri Lanka. Mae hyn ar adeg pan fo 8.4 miliwn o bobl yn y DU yn cael trafferth cael gafael ar fwyd da, maethlon, ac yn mynd yn llwglyd yn rheolaidd. Mae'n foesol annadleuol ac yn amgylcheddol anllythrennog, bod cymaint o wastraff mewn cyfnod o gymaint o angen. Mae'n rhaid i bob cwmni, elusen ac awdurdod dan sylw weithio gyda'i gilydd nawr i roi bwyd dros ben ar blatiau pobl.”
Partneriaid eraill
Gweld popethYmgyrch Premiwm Natur
Y Dref Werdd
Race Council Cymru
Sw Môr Môn a Chanolfan Adnoddau
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.