Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen sy'n gweithio ar draws Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd am nawr ac ar gyfer y dyfodol.
“Mae ansawdd ein hamgylchedd lleol, ein mannau gwyrdd, dyfrffyrdd, traethau, a'r aer rydym yn ei anadlu nid yn unig yn gyfystyr ag adferiad gwyrdd yng Nghymru, ond mae'n hanfodol ar gyfer diogelu bioamrywiaeth ar gyfer y dyfodol hefyd, ac ar gyfer adeiladu ein gwydnwch i'r argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae'n rhaid inni gynnal safonau amgylcheddol uchel ac ymgysylltu â phobl i werthfawrogi natur, grymuso pobl ifanc i sbarduno newid, a symud tuag at economi gylchol fwy cynaliadwy gydag atal gwastraff wrth wraidd ein hymdrechion. Mae'n rhaid i'n harweinwyr gydnabod a chefnogi'r angen i ddod â chymunedau a busnesau lleol at ei gilydd i greu'r newid hwn. Mae camau gweithredu bach yn cael effaith genedlaethol, ac yn ein helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau byd-eang. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn parhau i sbarduno newid drwy ein rhaglenni rhyngwladol - Baner Las, Baner Werdd a Gwobr Allwedd Werdd, a thrwy rannu arfer gorau. Rydym hefyd yn parhau i godi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd drwy Eco-Ysgolion, creu a diogelu mannau gwyrdd, a chynnal ymgyrchoedd a gweithgareddau i leihau gwastraff.”
Partneriaid eraill
Gweld popethBlaenau Gwent Food Partnership
Cardiff Third Sector Council (C3SC)
TFSR Cymru
National Trust Cymru
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartnerWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.