fbpx

O’r môr i’r mynydd

20 Medi, 2021
Gan Gwenllian Spink

Mae GwyrddNi yn brosiect newydd gan DEG a phump menter gymunedol fydd yn sefydlu Cynulliadau Hinsawdd ledled Gwynedd. Un o’r mentrau hynny yw Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle. Gwenllian yw Swyddog Dim-Gwastraff Yr Orsaf. 

Croeso i Ddyffryn Nantlle, dyffryn sy’n ymestyn o fôr i fynydd. Mae’n gartref i gyfoeth o gymunedau sy’n cydweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy’r dyffryn hwn.

Ar ein taith trwy’r dyffryn, ein stop cyntaf yw Antur Nantlle, cwmni cymunedol sydd wedi bod yn gwasanaethu Dyffryn Nantlle a’i ardaloedd cyfagos ers 1991. Maent wedi creu cyfleoedd gwaith di-ri i bobl leol ynghyd â chymryd cyfrifoldeb am lu o adeiladau hanesyddol lleol, fel man geni a chartref TH Parry Williams, un o feirdd pwysica’ Cymru. Erbyn heddiw, adnabyddir yr adeilad fel Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu, sy’n cynnig llety ac amrywiaeth eang o weithgareddau, o fynydda i geufadu.

Y stop nesaf ar ein taith yw Siop Griffiths, menter gymunedol sydd wedi’i lleoli ym Mhenygroes. Dros y tair blynedd diwethaf, llwyddodd Siop Griffiths i godi digon o arian i sefydlu Yr Orsaf, sy’n cynnwys caffi, llety, canolfan ddigidol i bobl ifanc, a chaffi trwsio. Yma ceir amrywiaeth eang o offer sydd ar gael i’r gymuned eu defnyddio; gallwch atgyweirio hen ddillad gan ddefnyddio’r peiriant gwnïo neu hyd yn oed roi cynnig ar argraffu 3D, gan ddefnyddio plastig bioddiraddadwy!

Cyn bo hir, bydd yna gludiant gwyrdd i’w gynnig i’r gymuned hefyd, gyda thri cherbyd trydan ar gael i bobl leol eu defnyddio. Yn ogystal â hyn, maent ar ganol sefydlu dau le gwyrdd i’r gymuned; y cyntaf yw rhandiroedd i bobl leol, a’r ail yw gardd gymunedol bywyd gwyllt, lle gobeithiant wella’r bioamrywiaeth a chreu man gwyrdd i drigolion lleol y pentref.

Mae clytwaith o ganolfannau cymunedol wedi’u gwasgaru ar draws y dyffryn, pob un ohonynt yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Enghraifft o’r fath yw Canolfan Talysarn, sydd wedi cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn y gorffennol, o lwybr sain trwy’r chwarel lleol i sesiynau recriwtio ar gyfer gwaith cymunedol, lle ceir cyfle i ddysgu sgiliau a chymwysterau newydd.

Dim ond rhagflas o’r hyn sydd gan Ddyffryn Nantlle i’w gynnig yw’r siwrnai fer hon, wrth i’r cymunedau gydweithio i greu dyfodol gwell a gwyrddach. 

Gwenllian Spink

Swyddog Dim-Gwastraff Yr Orsaf
gwenllian.yrorsaf@gmail.com

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.