DATGANIAD I’R WASG: 28 Mehefin 2023
Oedi peryglus i ddeddfau natur Llywodraeth Cymru
Ddoe, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei ymrwymiad i gwrdd â gofynion cychwynnol ymgyrch Cymru Natur Bositif ac addawodd Bapur Gwyn erbyn diwedd 2023, ond gohiriodd deddfau newydd ar gyfer byd natur.
Mae’r ymrwymiad hwn i Bapur Gwyn yn gam i’r cyfeiriad cywir ond nid oes ganddo’r brys y mae’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd yn ei fynnu. Wedi blynyddoedd o oedi, cafodd deddfau newydd ar gyfer byd natur yng Nghymru eu gwthio nôl unwaith eto ac mae natur yn parhau i ddirywio.
Dywedodd David Kilner, Cydlynydd Ymgyrch Climate Cymru:
“Mae’r oedi hwn yn wirioneddol o beryglus. Mae angen i ni gyd wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ac adfer y tir a’r dŵr o’n cwmpas. Wrth i ni fynnu – ac aros – am ddeddfau newydd, mae argyfwng cenedlaethol yn cael ei adael i’n cymunedau fynd i’r afael ag ef.”
Mae dros 350 o sefydliadau wedi bod yn galw am dargedau adfer byd natur sy’n rhwymo mewn cyfraith a chorff gwarchod amgylcheddol annibynnol i Gymru fel rhan o Fesur Natur Bositif, y maent eisiau weld eleni.
Ar yr 20fed o Fehefin, cyflwynodd yr ymgyrch un o’r llythyrau agored mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn ac anfonodd dros 2,000 o bobl negeseuon at Mark Drakeford yn galw am weithredu, yn ddi-oed.
Teimlwyd y pwysau cyhoeddus hwn yn amlwg yn ystod dadl y Senedd, gyda sawl Aelod o’r Senedd (AS) yn lleisio eu cefnogaeth ac yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw’r ymgyrch i bobl ledled y wlad.
Dywedodd Heledd Fychan, AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru:
“Rydym yn colli bioamrywiaeth bob dydd a phob wythnos sy’n mynd heibio heb y ddeddfwriaeth hon yn ei lle. Yma yng Nghymru, rydym eisoes ar ei hôl hi ar ôl Brexit o ran fframwaith llywodraethu amgylcheddol. Nid oes gennym hyd yn oed yr interim yn ei le yn iawn.”
Bydd ymgyrchwyr yn defnyddio’r gefnogaeth gyhoeddus a gwleidyddol eang y mae’r ymgyrch wedi’i derbyn i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn creu Papur Gwyn Natur Positif eofn ac uchelgeisiol.
Dywedodd Sam Ward, Pennaeth Climate Cymru:
“Mae ein system fwyd, hinsawdd, economi, iechyd a lles i gyd ynghlwm yn uniongyrchol â biosffer iach. Mae natur yn hanfodol i fodolaeth barhaus cymdeithas Gymreig swyddogaethol. Mae gwyddonwyr wedi ei gwneud yn gwbl glir bod byd natur mewn argyfwng, a bod Cymru yn un o’r gwledydd sydd wedi disbyddu fwyaf o ran byd natur.”
Drwy gyflwyno Bil Natur Positif, mae ymgyrchwyr yn dweud y gall Cymru atal y dirywiad ym myd natur a rhoi hwb i’r adferiad fel ei bod yn dod yn fwy cydnerth ac yn ffynnu o fewn ein hoes.
Dywedodd Dr Sharon Thompson, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, RSPB Cymru:
“Ddoe, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i’r pethau iawn, ond ar gyflymder poenus o araf, ac mae gan yr oedi hwnnw ganlyniadau gwirioneddol i natur a phobl Cymru. Ond nid yw’n rhy hwyr. Mae’r papur gwyn yn cynnig y potensial i fod yn gam gwirioneddol ymlaen os caiff ei drin fel blaenoriaeth. Byddwn yn parhau i fynnu gweithredu beiddgar nawr, heb oedi.”
Aeth Sam Ward ar daith o amgylch Cymru yn ddiweddar a chafodd gyfle i siarad â chymunedau ledled y wlad:
“Roedd llawer yn teimlo’n unig, fel mai nhw oedd yr unig rai oedd yn poeni, ond hoffwn pe baen nhw’n gallu gweld beth roeddwn i’n teimlo wrth deithio o gwmpas – miloedd o bobl ym mhob cornel o Gymru a oedd yn poeni’n fawr am ein byd naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n poeni am y materion hyn i gysylltu â grwpiau natur leol, ac ymuno â mudiad cenedlaethol Climate Cymru dros newid.”
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.