Nid clogyn sy’n dy wneud di’n arwr…
Mae GwyrddNi yn brosiect newydd gan DEG a phump menter gymunedol fydd yn sefydlu Cynulliadau Hinsawdd ledled Gwynedd. Grant Peisley yw Cyfarwyddwr cwmni DEG.
Wrth i ni glywed mwy a mwy am y newidiadau digynsail hyn i hinsawdd y byd, a lefel y newid a’r gweithredu sydd ei angen i arafu a dad-wneud y difrod, mae’n hawdd digaloni.
Mae hefyd yn hawdd dechrau edrych o gwmpas, gan aros a gobeithio y bydd rhywbeth neu rywun – os wyt ti’n bodoli, archarwr hinsawdd, rydan ni’n barod amdana ti! – i ddod i ddatrys y broblem enfawr hon i ni.
Ond beth os anghofiwn ni am yr arwr mewn clogyn, a chychwyn wrth ein traed? Beth am afael yn yr awennau, a gwneud i rywbeth? Beth os mai ni yw’r arwyr?
Yn DEG (Datblygiadau Egni Gwledig), rydan ni’n credu ym mhwer pobl yn gweithio gyda’i gilydd i greu newid a gwneud i bethau ddigwydd. O gynllun egni adnewyddadwy YnNi Padarn Peris, sy’n defnyddio dŵr o Afon Goch Llanberis i gynhyrchu trydan, i Yr Orsaf ym Mhenygroes, sy’n pweru eu caffi, llety a chanolfan gyfryngau gyda’u paneli solar a batris, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â nifer fawr o gymunedau sydd wedi gafael yn eu breuddwydion am egni adnewyddadwy a’u troi nhw’n realiti; wedi troi syniad yn fenter gynaliadwy, sy’n eiddo i’r gymuned, ac yn gwneud elw.
Bydd criw Climate Cymru yn ymweld â phump o’r mentrau hyn yn ystod eu taith fawr ledled Cymru yr wythnos hon – Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, Siop Griffiths ym Mhenygroes, Cyd Ynni ac Ynni Padarn Peris yn Llanberis, ac Y Dyffryn Gwyrdd ym Methesa, gan deithio yng nghar trydan cyntaf DEG!
Pobl fydd yn pweru ein prosiect diweddaraf, GwyrddNi. Dros y ddwy flynedd nesaf bydd GwyrddNi yn dod â phobl ynghyd mewn pum cymuned yng Ngwynedd (mewn partneriaeth â phump menter gymdeithasol), i sgwrsio, i wrando ac i ddysgu mwy am newid hinsawdd trwy Gynulliadau Hinsawdd a gweithgareddau eraill, cyn penderfynu sut maen nhw – yn unigolion a chymunedau – am weithredu.
Os ydych chi’n byw yng Ngwynedd ac am ddysgu mwy a bod yn rhan o brosiect GwyrddNi cysylltwch efo ni ar post@deg.cymru. Mi fasa ni wrth ein bodd yn clywed ganddoch.
Felly ar ddechrau’r Wythnos Fawr Werdd, a gyda COP26 ar y gorwel, dewch i ni botelu’r egni, y gobaith a’r hyder yma, dewch i ni edrych o’n cwmpas a gweld pa lwyddiannau y gallwn ddysgu ganddynt a’u dilyn, a dewch i ni gamu allan i’n cymunedau i weld pa newidiadau fedrwn ni eu gwneud.
Yn ôl pob son, nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn…
Grant Peisley
Cyfarwyddwr DEG
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.