fbpx

Natur Bositif

Mae natur yn dirywio'n ddifrifol. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, sy’n golygu, pan fydd pobl ifanc heddiw yn hŷn, y gallai rhai o rywogaethau mwyaf eiconig cefn gwlad Cymru eisoes fod wedi’u colli am byth.

Dywedwch wrth y Prif Weinidog: Mae'n rhaid i Gymru beidio oedi ar ddeddfau newydd i warchod byd natur
DATGANIAD I'R WASG 08/03/2023
LLYTHYR AGORED AT Y PRIF WEINIDOG, MAWRTH 2023

Yn ffodus, eleni bydd uwchgynhadledd bioamrywiaeth COP15 yn rhoi cyfle unwaith mewn degawd i osod nod byd-eang newydd tuag at achub byd natur. Dylai’r nod hwn fod yn un ‘Natur Bositif’, sy’n golygu, erbyn 2030, fod gennym fwy o fyd natur ar ddiwedd y degawd nag yr oedd gennym ar y dechrau. Bydd arweinwyr y byd yn gosod ystod o dargedau bioamrywiaeth i ysgogi gweithredu trawsnewidiol er mwyn adfer byd natur.

Gyda chymaint o gynnydd ar y llwyfan byd-eang, mae Cymru mewn perygl o fynd ar ei hôl hi. Mae Llywodraeth Cymru wedi llusgo ei thraed ac mae natur yn parhau i ddioddef o ganlyniad.

Er mwyn cynnal ei henw da fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru:

  • Gefnogi’r galwadau rhyngwladol am nod byd-eang Natur Bositif yn uwchgynhadledd COP15, a gosod dyletswydd mewn deddfwriaeth i gyflawni Cymru Natur Bositif drwy brif ffrydio gweithredu dros fioamrywiaeth ar draws holl bortffolios Llywodraeth Cymru.
  • Cyflwyno Bil Diogelu’r Amgylchedd i osod fframwaith ar gyfer targedau adfer natur sy’n gyfreithiol rwymol a chreu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol cryf i Gymru cyn gynted â phosibl.
  • Cynyddu buddsoddiad cyhoeddus yn adferiad byd natur, gan sicrhau bod gwariant holl adrannau’r llywodraeth yn adlewyrchu’r nod Natur Bositif, yn ogystal â harnesu buddsoddiad preifat ym myd natur wrth gefnogi cymunedau, trwy farchnadoedd a reolir yn dda.

#NaturBositif

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.