fbpx

Mae Câr-Y-Môr yn gymdeithas budd cymunedol gofrestredig, sy’n golygu ei fod yn cael ei weithredu yn hafal rhwng ei 105 aelod.

19 Medi, 2021
Gan Jon Haines

Mae Câr-Y-Môr yn gymdeithas budd cymunedol gofrestredig, sy’n golygu ei fod yn cael ei weithredu yn hafal rhwng ei 105 aelod. Mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i’r gymdeithas i’w alluogi i gyflawni mwy o nodau sy’n anelu at adfywio’r amgylchedd morol a chynhyrchu swyddi cynaliadwy i bobl leol.

Ffurfiwyd Câr-Y-Môr efo’r bwriad o greu prosiect Dyframaethu cymunedol adfywiol. Rydym yn defnyddio system dechnolegol isel o’r enw Dyframaethu Aml-droffig Integredig (IMTA), ar hyn o bryd rydym yn gweithredu dwy fferm dreial yn y Ramsey Sound, Tyddewi. Mae’r ffermydd hyn yn cynnwys llinell o fwiau du a llinellau tyfu gwymon a nifer mawr bysgod cregyn sydd yn cael eu cadw ar wahanol ddyfnderoedd. Rydym yn tyfu gwahanol fathau o wymon – gwymon siwgr, letys môr, chwyn Oar, yn ogystal ag wystrys brodorol, cregyn bylchog a chregyn gleision ac rydym hefyd wedi gwneud cais am drwyddedau morol perthnasol i’n galluogi i greu fferm sy’n weledol ac yn fasnachol.

Yn gyntaf, rydym yn falch ein bod yn cynhyrchu bwyd lleol sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd. Does ddim angen mewnbwn er mwyn gweithredu ein dulliau ffermio, mae hynny’n golygu dim mewnbynnau cemegol fel gwrteithwyr, plaladdwyr a chwynladdwyr, dim meddyginiaethau milfeddygol, dim gofyniad bwyd anifeiliaid na dŵr croyw. Mae’n anodd darlunio ffynhonnell faeth naturiol gydag ôl troed adnoddau sydd mor isel.

Yn ogystal â chynhyrchu bwyd gwych i ni, mae’r fferm yn gweithredu fel meithrinfa ar gyfer infertebratau o’r môr. Yn benodol, mae’r gwymon yn gweithio fel cysgod i ysgolion o bysgod bach, tra bod y pysgod cregyn yn wych am hidlo dŵr a gwymon wrth ail-ocsigeneiddio dŵr. Mae gwymon, yn enwedig Kelp, yn tyfu’n anhygoel o gyflym, gan amsugno maint mawr iawn o CO2. Mae blaenau’r ffrondiau’n torri i ffwrdd yn naturiol, gan fwydo’r ffawna lleol a atafaelu carbon wrth iddo suddo lawr i orwel y môr.

Mae ein dau safle prawf wedi’u lleoli ar y ddau ochr i bentir, sy’n eu hamlygu i dywydd ac amodau morol gwahanol. Rydym wedi dysgu llawer ynghlyn a’g arferion ffermio. Credwn fod y llif llanw gwych yn Sain Ramsey yn gwneud hwn yn leoliad gwych ar gyfer ffermio cefnfor, ond yn yr un anadl, ymhen amser rydym yn gobeithio cefnogi cymunedau eraill i sefydlu ffermydd tebyg ar hyd arfordir Cymru.

Rydym yn ffodus iawn bod gennym aelodau brwdfrydig sydd ag nifer eang o sgiliau a chefndiroedd. Fel grŵp, mae gennym y gallu i gael effaith gadarnhaol ar dim ond yr amgylchedd morol, hefyd bywydau ein cymuned leol.

I ddarganfod mwy amdanom ni ac i gyfrannu, ewch i’n gwefan Carymor.wales

Er mwyn ein cefnogi ni a chynhyrchwyr eraill sy’n bwyd môr o’r ansawdd gorau, ymwelwch â’n siop bwyd môr ar-lein yn solvaseafoods.co.uk

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Dychmygu Gweithredu ar gyfer Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru

Mae Gweithredu ar Lefel Leol yn Arwain at Effaith Fawr, meddai Elusen Hinsawdd y DU

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.